Rhododendronau
Roedd
Capten Talbot Fletcher, a etifeddodd Ystâd Margam ym 1918, yn
fotanegwr brwd. Helpodd i ariannu'r casglwr planhigion, Frank
Kingdon Ward. Ar un o'i alldeithiau i fynyddoedd yr Himalaia,
dychwelodd Kingdon Ward â phlanhigion a hadau i'r gerddi yma ym
Margam, gan gynnwys sawl math newydd ei ddarganfod o rododendronau
ac asaleâu. Yn y gwanwyn, mae'r llu o lwyni rhododendron yn y parc
yn blodeuo mewn sioe ysblennydd o liw.
