Orendy
Adeiladwyd yr Orendy ym 1787, gan gymryd 6 blynedd i'w
gwblhau. Roedd yn cynnwys casgliad gwych o goed orennau, lemonau a
sitrws eraill. Erbyn canol y ddeunawfed ganrif roedd y casgliad yn
cynnwys mwy na 100 o goed. Ym Mhrydain, mae angen gwarchod coed
orennau rhag gerwinder ein tywydd gaeafol, ond ym misoedd yr haf
maent yn gallu dygymod â'r awyr agored ac roeddent yn cael eu
defnyddio i addurno gerddi ffurfiol y cyfnod.
