Castell Margam
Comisiynodd Christopher Rice Mansel Talbot y pensaer Thomas
Hopper i ddylunio Castell Margam. Cafodd ei gwblhau erbyn 1835.
Erbyn hyn, gallwch weld pa mor drawiadol oedd yr adeilad o'r tu
allan ond nid arbedwyd unrhyw gost ar y tu mewn. Cafodd yr
ystafelloedd eu haddurno â gwaith pren a phaneli pren, ffenestri
gwydr lliw, gwaith plastr wedi'i euro a phentanau marmor hardd. Hen
gelfi a gweithiau celf a ddefnyddiwyd i addurno'r tu mewn.
