Golygfa o'r Fryngaer
Mae'r fryngaer y tu ôl i Gastell Margam
yn rhoi golygfa dros y Pwll Newydd. Roedd y fryngaer yn gartref i'r
Silwriaid, llwyth yr Oes Haearn a frwydrodd yn erbyn y Rhufeiniaid
rhwng 48OC a 70OC. Cafodd y Pwll Newydd ei gloddio â llaw ym 1926
ar orchymyn Capten Talbot Fletcher. Roedd ef wedi etifeddu Ystâd
Margam ym 1918. Yn wreiddiol roedd yn cael ei ddefnyddio fel llyn
cychod.
