Tŷ'r Siapter
Dyma'r
cyfan sydd ar ôl erbyn hyn o Dŷ'r Siapter deuddeg ochr hardd.
Sefydlwyd y Fynachlog Sistersaidd ym 1147 a datblygodd hon yn
fynachlog fwyaf a chyfoethocaf Cymru. Roedd abadau Margam yn enwog
am noddi barddoniaeth a llên Gymraeg. Fel abatai Sistersaidd
eraill, roedd ei heconomi'n dibynnu'n bennaf ar fagu defaid. Ym
1536, daeth Harri'r VIII â theyrnasiad y mynachod i ben pan
ddiddymodd dai crefyddol Cymru a Lloegr.
