Hepgor gwe-lywio

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin 

Mae'r dudalen hon yn darparu atebion i gwestiynau cyffredin ynglŷn â gwirfoddoli ym Mharc Gwledig Margam. Os oes gennych gwestiynau na atebwyd isod, cysylltwch â ni.

BOD YN WIRFODDOLWR 

Faint o amser y mae'n rhaid i mi ei roi?

Eich dewis chi yw hyn! Byddwn yn gofyn i wirfoddolwyr roi o leiaf pedair awr yn unig ar gyfer pob diwrnod y byddant yn gwirfoddoli yn y parc.

Beth gallaf ei wneud?

Mae gennym ystod eang o rolau gwirfoddol sy'n cynnig gweithgareddau gwerthfawr a chofiadwy sy'n llawn hwyl. Cymerwch gip ar y disgrifiadau o'n rolau am wybodaeth bellach.

A oes unrhyw gyfyngiadau oedran?

Oes, mae rolau gwirfoddol yn agored i'r rheiny sy'n 18 oed neu'n hŷn.

Oes angen profiad blaenorol arnaf?

Mae angen profiad blaenorol ar gyfer rhai rolau. Mae gwirfoddolwyr yn datblygu sgiliau newydd a rhai sydd ganddynt eisoes wrth wneud y swydd a bydd hyfforddiant dewisol yn cael ei ddarparu am ddim pan fo hynny'n briodol.

Rwyf yn anabl, a alla i wirfoddoli?

Wrth gwrs! Mae ein rolau gwirfoddol yn amrywiol felly mae digon o dasgau addas ar gyfer yr holl wirfoddolwyr, p'un a oes gennych anableddau ai peidio.



PROSES YMGEISIO

Pam mae angen dau ganolwr arnaf?

Er mwyn sicrhau bod ein gwirfoddolwyr yn addas ar gyfer y rolau gwirfoddoli, rydym yn ffonio neu'n anfon llythyr byr at ganolwyr pob ymgeisydd i wirio bod gan yr ymgeisydd yr agwedd angenrheidiol ac unrhyw sgiliau perthnasol.

Pwy all fod yn ddau ganolwr i mi?

Gall unrhyw un sy'n eich adnabod fod yn ganolwr i chi, heblaw am aelod o'r teulu. Er enghraifft, athrawon, cyflogwyr blaenorol, cydweithwyr, ac ati. Os na allwch chi feddwl am ddau ganolwr yna cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i drafod hyn gyda chi.

Mae gennyf gofnod troseddol; oes rhaid i mi ddatgan hyn ar y ffurflen gais?

Byddwn ond yn gofyn i ymgeiswyr ddatgelu unrhyw euogfarnau heb eu disbyddu. Am gyngor ar hyn, ewch i wefan y National Career Service.

TREULIAU A BUDDION

A gaf fi fy nhalu?

Na, nid yw gwirfoddolwyr yn cael eu talu am y gwaith maen nhw'n ei wneud.

Pa dreuliau fydd yn cael eu talu?

Anogir pob gwirfoddolwr i ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Rhoddir tocynnau bws am ddim i dalu am y gost o deithio i'r parc ac oddi yno ar gyfer gweithgareddau gwirfoddoli. Ad-delir milltiredd y car hyd at werth cyfatebol tocyn bws.


CEFNOGAETH A MENTORA 

A fyddaf yn derbyn hyfforddiant?

Byddwch, mae'r rhan fwyaf o'n hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr yn cael ei gynnal yn fewnol gan ein staff profiadol. Darperir cyrsiau hyfforddiant allanol ychwanegol am ddim i wirfoddolwyr pan fydd hynny'n briodol a byddant yn ddewisol.

Nid wyf wedi gwirfoddoli o'r blaen, a fyddwch chi'n darparu cefnogaeth?

Mae ein gwirfoddolwyr yn cael cefnogaeth lawn gan ein Cydlynydd Gwirfoddolwyr i sicrhau eu bod yn mwynhau eu profiad gwirfoddoli ym Mharc Gwledig Margam.

Ydych yn barod i wneud cais?

Mae'r broses ymgeisio yn hawdd, gallwch gwblhau ffurflen gais naill ai ar-lein neu drwy argraffu ffurflen a'i hanfon i'r parc.

 

 

© Parc Gwledig Margam