Hepgor gwe-lywio

'White Cloud' gan Alain Ayres

Wedi'i gerfio o garreg Portland.

Mae "White Cloud" yn gerflun carreg sydd wedi'i gerfio o ddwy dunnell o garreg Portland. Fe'i gwnaed ym 1989 pan roedd Ayres yn gweithio fel artist preswyl ym Mharc Margam. Un o'r cerfluniau a oedd yn cael ei arddangos ar y pryd oedd cerflun efydd gan Henry Moore, ac mae elfennau o'r gwaith hwnnw yn y cerflun hwn. Mae'r ffurf yn seiliedig ar gwmwl haniaethol, sydd hefyd yn cynnwys cyfeiriadau at ffurfiau dynol ac anifeiliaid. Mae'r garreg lliw golau’n gwrthgyferbynnu â gwyrddni ei leoliad, ac mae goblygiadau ei ffurf yn ategu'r golygfeydd naturiol a'r anifeiliaid sydd i'w gweld yn y Parc.

Gellir ei weld wrth ochr y bambŵau i'r dde wrth i chi gerdded i fyny prif risiau'r Castell.

© Parc Gwledig Margam