Hepgor gwe-lywio

'Immortal Portal' gan Vic Brailsford

Wedi'i gerfio o dderw

Cenedligrwydd – Cymreig

Mae'r cerflun arbennig hwn wedi bod yn y Parc ers 1996 pan ddatblygwyd yr ardd Japaneaidd. Mae'r cerflun yn ffurfio dwy ran sydd bron union yr un fath, sy'n sefyll o bobtu mynedfa'r ardd. Mae'r ffurfiau haniaethol yn cynrychioli dwy goeden sy'n gwarchod y fynedfa. Mae hanner uchaf y cerflun wedi'i gerfio'n ofalus i roi’r argraff o’r dail, ac mae'r hanner isaf yn ffurfio boncyffion y pyrth. Yn amlwg, ychydig o waith oedd ei angen yma gan eu bod yn goed o'r Parc yn wreiddiol. Symudwyd y pyrth i leoliad newydd yn y Parc yn ddiweddar, yng ngerddi'r Orendy.

Gellir eu gweld ar ben rhodfa'r deildy, yn agos i Bentref Tylwyth Teg y Plant.

© Parc Gwledig Margam