Hepgor gwe-lywio

'Finger Maze' gan Phillip Chatfield

Wedi'i gerfio mewn calchfaen Ancaster.

Cyflogwyd Phillip Chatfield fel cerflunydd preswyl ym Mharc Margam. Mae'n gerfiwr carreg a chynhyrchodd y darn hwn yn wreiddiol i'w leoli yng nghanol y ddrysfa berthi drawiadol. Mae'r nodwedd hon o'r parc  bellach wedi mynd, a phenderfynwyd ei ail-leoli yn ei safle presennol o flaen y Castell. Mae gan y cerflun gyfeiriadau at rai o'r cerrig beddau sydd i'w gweld ar dir yr Abaty, ac mae rhai delweddau cerfwedd diddorol i'w gweld o amgylch ymylon y cerflun.

Gellir gweld 'Finger Maze' wrth ochr y llwybr sy'n dilyn yr ha-ha o'r Orendy i'r Castell.

© Parc Gwledig Margam