Hepgor gwe-lywio

‘Scene of the Deluge’ gan Matthieu Kessells

Wedi'i gerfio o farmor Alabaster

 Mae'r cerflun hwn i'w weld y tu mewn i'r Orendy ei hun (roedd y tu mewn i'r Castell yn wreiddiol) , a dyma'r hyn y byddai llawer o bobl yn ei ystyried yn gerflun "traddodiadol". Fe'i gwnaed gan Matthieu Kessells, cerflunydd o'r Almaen, fel rhodd i Thomas Mansel Talbot ym 1817. Ar yr adeg hon roedd teulu Mansel Talbot (a oedd yn berchen ar Ystâd Margam) yn cronni gweithiau celf, a cherfluniau’n arbennig, i addurno ystafelloedd a chynteddau Castell Margam, a oedd newydd ei adeiladu. Roeddent yn deulu cyfoethog iawn, ac yn cael gafael ar gelfweithiau o bob cwr o'r byd.

Mae "Scene of the Deluge" yn gerflun mawr. Mae'r tri ffigur sydd ynddo bron yn faint go iawn. Byddai maint bras y cerflun cyfan tua deuddeg troedfedd. Mae'r cerflun wedi'i wneud o alabaster gwyn, sylwedd caled, gwyn a sialcog a ddefnyddir i ail-greu effaith marmor llawer drutach. Mae arwyneb y ffigurau'n llyfn iawn, ac mae'n amlwg bod y cerflun cyfan wedi'i gerflunio'n sensitif. Mae'r ffigurau'n realistig iawn, yn gymesur ac wedi'u cerfio'n fanwl iawn. Fe'i lleolir yn yr Orendy, ac er nad dyma oedd ei safle gwreiddiol (roedd yn arfer bod yng nghyntedd y castell ei hun), mae ei safle presennol yn addas iawn. Mae'r Orendy mawr awyrog yn ategu'r cerflun, mae'r heulwen naturiol sy'n llifo drwy'r ffenestri mawr yn tynnu sylw at y nodweddion byw a phlygion main y deunydd gyda golau a chysgod.

Thema'r cerflun yw "Scene of the Deluge", parodi crefyddol sy'n dangos brwydr emosiynol dros oroesi. Os edrychwch ar y cerflun o wahanol onglau fe welwch dri ffigur gwahanol yn gafael yn ei gilydd, a phob un yn ymwneud â goroesi. Mae Kessells yn mynegi poen ac ymdrech goroesi - mae pob ffigur yn cydio'n daer wrth ei gilydd, ac mewn bywyd ei hun. Y dyn sydd â’r afael fwyaf, ac mae’n edrych dros y fenyw a'r baban wrth iddynt afael yn ei gilydd. Pe bai'n colli ei afael, yna byddai'r fenyw a'r baban yn darfod. Mae’r ddynes yn gafael ym mhigwrn y dyn, ac yn gafael yn dynn yn y baban. Mae'r baban yn gafael yn ei fam, yn tynnu ar frethyn ei gwisg.

Hyd yn oed heddiw gallai'r cerflun hwn fod yn barodi o dynged y teulu Talbot yn y pen draw, gan fod marwolaeth yr Arglwyddes Emily Talbot ar ddechrau'r ganrif hon wedi arwain at ddiwedd y teulu Talbot gan mai hi oedd yr aelod olaf o'r teulu, ac nid oedd erioed wedi priodi na chael plant.

© Parc Gwledig Margam