Hepgor gwe-lywio

‘Mindfulness Benches’ gan Chris Wood

Cerfiwyd y meinciau gan Chris 'Wood', cerflunydd lleol. Ysbrydolwyd dyluniad pob un o'r meinciau gan ddyfyniad enwog a ddefnyddir ar gyfer ymwybyddiaeth ofalgar. Mae'r dyfyniadau wedi'u cerfio ar y meinciau.

Mae'r Parc yn derbyn £2,000 o Gronfa Tâl Bagiau Siopa Tesco ar ôl gwneud cais am grant mewn partneriaeth â Grŵp Cyfeillion Parc Margam.

Mae'r grant wedi caniatáu ar gyfer creu meinciau a ysbrydolwyd gan 'ymwybyddiaeth ofalgar'. Daw'r grant o fenter 'Bags of Help' Tesco, mewn partneriaeth â'r elusen amgylcheddol Groundwork, sy'n dyfarnu arian a gynhyrchir drwy werthu bagiau siopa i greu neu wella mannau gwyrdd mewn cymunedau. Roedd cwsmeriaid siopau lleol yn gallu pleidleisio dros un o dri phrosiect, a rhoddwyd naill ai £5,000, £2,000 neu £1,000 iddynt yn dibynnu ar ba un y cefnogwyd fwyaf.

Cerfiwyd y meinciau gan Chris 'Wood', cerflunydd lleol. Ysbrydolwyd dyluniad pob un o'r meinciau gan ddyfyniad enwog a ddefnyddir ar gyfer ymwybyddiaeth ofalgar. Mae'r dyfyniadau wedi'u cerfio ar y meinciau.

Mae'r meinciau wedi'u gosod ochr yn ochr â choetir, ger y pwll newydd. Mae'r ardal wedi'i dewis fel man tawel lle gellir myfyrio, gan eich caniatáu i feddwl, ymlacio a rhyfeddu at natur.

 ‘Take my hand. We will walk, we will only walk. We will enjoy our walk without thinking of arriving anywhere.’

 ‘You can’t stop the waves from coming but you can learn how to surf.’

'I took a walk in the woods and came out taller than the trees'

© Parc Gwledig Margam