Hepgor gwe-lywio

‘Wishing Stone’ gan Paul Williams

Fe'i gwnaed o galchfaen Ancaster, sef calchfaen oolitig o'r cyfnod Jwrasig Canol sy'n cael ei gloddio o amgylch Ancaster, Swydd Lincoln, Lloegr. 

Mae Paul Williams yn gerflunydd sy'n gweithio gydag amrywiaeth o ddeunyddiau, ond mae e’ wir yn mwynhau gweithio gyda charreg. Mae ei gerflun "Wishing Stone", wedi'i wneud o dri bloc o galchfaen Ancaster hufen. Un dehongliad posib o'r cerflun hwn yw ei fod yn cynrychioli ffurf fenywaidd, Emily Talbot o bosib, gan gynrychioli'r frwydr fenywaidd dros gydraddoldeb ar yr adeg yr oedd yr Arglwyddes Talbot yn fyw. Mae'r nodweddion dan straen a'r ystum herfeiddiol yn rhoi argraff o gryfder mawr, gan ddangos y sefyllfa anodd yr oedd menywod yn ei hwynebu ar y pryd o ran eu rôl mewn cymdeithas. Bu'n rhaid i'r Arglwyddes Talbot ysgwyddo'r cyfrifoldeb llawn o redeg Ystâd Margam yn ystod ei hoes ac mae'n rhaid bod hyn wedi bod yn gyfrifoldeb mawr. Mae'r cerflun wedi dioddef hindreulio a staenio o gen, ond mae'n dal i fod yn ffurf gerfluniol gref a thrawiadol.

Gellir gweld 'Wishing Stone' ar y lawnt ar bwys y Tŷ Sitrws yng Ngerddi'r Orendy.

Os oes gennych wybodaeth am y cerflun hwn, hoffem ei chlywed!

© Parc Gwledig Margam