Hepgor gwe-lywio

'Pebble Leaf' gan Paul Mason

Pebble Leaf (1985) - Cerflun syml a wnaed o galchfaen Ancaster. Wrth i chi gerdded ato o bell mae'n edrych fel clogfaen ar ochr y ffordd, ond wrth i chi nesáu, gallwch weld gwythiennau wedi'u cerfio yn y garreg.

Cerflunydd ac artist o Brydain oedd Paul Mason (23 Mehefin 1952 – 9 Mai 2006), a oedd yn gweithio'n bennaf gyda charreg a marmor. Enillodd Fedal Aur yr Academi Frenhinol ym 1976, ac mae ei waith wedi'i arddangos yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop, gan gynnwys yn oriel Tate, St Ives a'r Bauhaus Kunst-Archiv ym Merlin.

Mae'n adnabyddus am ei gerfluniau allanol, y cyfeirir atynt fel "darnau eiconig wedi'u cerfio o gerrig, sy'n ddehongliadau graddfa fawr o ffurf naturiol", ond roedd hefyd yn paentio, yn darlunio, yn creu gwaith collage ac yn gwneud cerfluniau llai.

Meddai Mason am ei waith, 

'Mae fy ngwaith yn ceisio adnabod ac efelychu'r grymoedd naturiol sy'n gynhenid mewn cerfio a daeareg. Mae rhywbeth hynod ddeniadol a boddhaol am y prosesau cerflunio ar y ddwy raddfa a'r ddeialog rhyngddynt, sy'n digwydd yn eithaf naturiol o fewn y darn a'r cyfan.’

Gellir gweld Pebble Leaf yn agos i 'Deml y Pedwar Tymor' y tu ôl i'r Orendy.

© Parc Gwledig Margam