Hepgor gwe-lywio

Rhiannon 'Divine Queen' gan David Petersen

Gwnaed 'Rhiannon' ar gyfer 'Gŵyl Gerddi Cymru' 1992 yng Nglyn Ebwy ac fe'i noddwyd gan British Steel a Burt, Boulton a Haywood. Mae'r catalog ar gyfer y rhaglen celf gyhoeddus ar gyfer yr ŵyl yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol a ddarparwyd gan David:

Duwdod benywaidd yw'r gwaith, cyfuniad o'r dduwies nadroedd Minoaidd o Knossos a'r Frenhines ddwyfol Rhiannon o Gymru. Mae'r deunyddiau a ddefnyddiwyd yn ymwneud â gorffennol diwydiannol trwm Glyn Ebwy. Roedd ei weithgynhyrchu'n cynnwys pob un o'r pedair elfen - daear, aer, tân a dŵr - gan alluogi i'r bumed elfen - hud- ymddangos (yn ôl y Celtiaid). Mae'r ddwy fwced (y ffrog) yn cyfeirio at y peiriau a ddefnyddiwyd yn aml gan y Celtiaid fel offrymau adduned. Daw’r ‘grafanc’ hynod rybedog yn fronglwm ar gyfer y ddwy belen, sydd yn eu tro’n dod yn fronnau noeth y dduwies Minoaidd, a daw strapiau'r bronglwm yn rhubanau sy'n llifo yn y gwynt.

Mae'n debyg bod David Petersen, mab ieuengaf Jack Petersen, y Pencampwr Bocsio Pwysau Trwm, yn fwyaf enwog am ddylunio ac adeiladu'r Ddraig Goffa i goffáu’r 38ain Adran Gymreig yng Nghoed Mametz ym Mrwydr y Somme ym 1916. Mae'r gofeb, sydd ar safle'r frwydr yng ngogledd Ffrainc, yn dangos draig goch fawr yn dal weiren bigog, ac fe’i gosodir ar blinth carreg.
Mae'n adnabyddus hefyd am ennill cystadleuaeth i greu'r Ffagl Genedlaethol y Mileniwm ar gyfer dathliadau'r mileniwm. Codwyd y cerflun dur gwrthstaen mawr yng nghyntedd Neuadd y Ddinas Caerdydd i ddechrau.

Bu David yn gweithio yng ngwaith dur GKN yng Nghaerdydd cyn astudio celfyddyd gain yng Ngholeg Celf Casnewydd. Mae'n aelod etholedig o'r Academi Frenhinol Gymreig ac mae wedi gwasanaethu fel cadeirydd Cymdeithas Gofaint Artistiaid Prydain. Bu'n ddarlithydd amser llawn mewn sawl coleg celf yma yng Nghymru ac yn Llundain, ac mae wedi darlithio'n rhyngwladol yn America, Canada, Rwsia,
yr Almaen, Sbaen a Ffrainc.

Mae hefyd yn adnabyddus fel cyflwynydd teledu ar bynciau hanesyddol a diwylliannol; bu'n ymgeisydd Plaid Cymru yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol 1999 ar gyfer Etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed ac am nifer o flynyddoedd arweiniodd David y ddirprwyaeth Gymreig ar gyfer yr ŵyl Interceltique de Lorient yn Llydaw.

Mae wedi rhedeg ei stiwdios ei hun yng Nghymru ers blynyddoedd lawer ac wedi cwblhau llawer o gomisiynau cerfluniau.

Gellir gweld cerflun metel David, Rhiannon 'Divine Queen' ar lawntiau'r Orendy yn agos at rodfa'r deildy.

© Parc Gwledig Margam