Hepgor gwe-lywio

'Helmut' gan Moelwyn Merchant

Roedd William Moelwyn Merchant yn academydd, yn nofelydd, yn gerflunydd, yn fardd ac yn offeiriad Anglicanaidd. Cafodd ei eni ym Mhort Talbot a Chymraeg oedd ei iaith gyntaf. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Bu farw ar ôl iddo ymddeol yn Leamington Spa.

Ar ôl addysgu ym Mhrifysgol Cymru, penodwyd Merchant yn Athro a Phennaeth yr Adran Saesneg ym Mhrifysgol Caerwysg ym 1961. Ef oedd yn gyfrifol am gychwyn astudiaeth Drama yn y brifysgol. Gadawodd Caerwysg ym 1974 i addysgu ym Mhrifysgol Chicago. Fel academydd, mae'n fwyaf adnabyddus am ei rifynnau o Shakespeare, a ddefnyddir yn eang.

Yn ogystal â'i waith academaidd, roedd Merchant yn weithgar yn Eglwys Loegr. Ar ôl gadael Chicago daeth yn Ganon ac yn
Ganghellor Eglwys Gadeiriol Caersallog, cyn dychwelyd i Gymru i ddod yn ficer Llanddewi-Brefi ger Tregaron. Yn hwyr mewn bywyd ysgrifennodd gyfres o gyfrifon ffuglennol o straeon beiblaidd. Cyhoeddodd Merchant nifer o lyfrau barddoniaeth, gan gynnwys Breaking the Code (1975), No Dark Glass (1979) a Confrontation of Angels (1986).

Ym 1964 dechreuodd yr academydd, y bardd a'r offeiriad nodedig wneud cerfluniau dan ddylanwad ei ffrind agos, Barbara Hepworth.

'Pan roedd Barbara Hepworthgydag un her - "Dere i ni weld a oes gen ti ddwylo" wedi’m galluogi i dorri fy obsesiwn â geiriau, daeth cerflunwaith yn drydedd alwedigaeth ac mor naturiol ac anochel â'r ddwy gyntaf, sef offeiriad ac academydd.'

Cyflwynodd nifer o sioeau unigol, ac arddangosodd hefyd ar y cyd â Josef Herman; mae galw o hyd am ei waith. Mae enghreifftiau ohono ar gael ar gampysau Prifysgolion Stirling (Growing Form), Caerdydd (British Triad), Caerwysg (Ascending Form and Tension) a Warwick (Triad);  ac yn Eglwys yr Holl Saint, Leamington Spa (Confontation of Angels). Rhoddodd Ascending Form i Brifysgol Caerwysg ar ôl iddo ymddeol, ac mae'r cerflun hwn yn ogystal â 'Tension' bellach yn rhan o'r “Daith Gerfluniau” drwy gampws y brifysgol, ynghyd â darn o waith Hepworth, y bu Merchant yn fodd i gael gafael arno ar gyfer y brifysgol.

Gellir gweld ei gerflun 'Helmut', sudd wedi'i wneud o haearn bwrw, ar y lawnt laswellt y tu ôl i’r Orendy.

© Parc Gwledig Margam