Hepgor gwe-lywio

‘The Shout’ gan Glynn Williams

'The Shout'

Crëwyd y cerflun hwn gan Glynn Williams, a aned yn yr Amwythig ym 1939. Aeth i Goleg Celf Wolverhampton a daeth yn Athro Cerfluniaeth a Phennaeth yr Ysgol y Celfyddydau Cain yn y Coleg Celf Brenhinol. Ei waith ef yw'r cerflun o Lloyd George sy'n sefyll yn Sgwâr y Senedd, Llundain.

Mae 'The Shout' (a wnaed ym 1982), yn portreadu mam anobeithiol sy'n penlinio, yn dal corff ei phlentyn marw. O'r wybodaeth rydym wedi dod o hyd iddi, fe'i crëwyd fel cofeb i ddioddefwyr y rhyfel yn Libanus, yr oedd delweddau brawychus y rhyfel yn cael eu darlledu ar y teledu ar y pryd. Mae hefyd wedi creu cerflun tebyg o'r enw 'Mother of the Dead'. Mae effaith y cerflun 'Shout', a'r teimlad mae'n ei gyfleu, yn cael eu hadlewyrchu gan y ffaith y cafodd ei symud i leoliad diarffordd yn y parc ar ôl i ymwelwyr ddweud ei fod yn rhy annymunol pan gafodd ei osod mewn safle mwy amlwg i ddechrau.

Gellir gweld 'The Shout' ychydig i'r dde y tu mewn i brif gatiau Gerddi'r Orendy.

© Parc Gwledig Margam