Hepgor gwe-lywio

Parc Gwledig Margam

Mae Parc Gwledig Margam yn llawn hanes, bywyd gwyllt a harddwch naturiol. Mae rhywbeth i bawb yn y parc. Gwyliwch y clip fideo isod i’ch paratoi ar gyfer eich ymweliad!

Parc Gwledig Margam

Margam Country Park among UK’s top ten – again!

Margam Country Park has been voted among the top ten most popular parks and green spaces in Britain...

Diwrnod Afalau

 23 Hydref

diwrnod llawn hwyl i bobl o bob oedran, ymunwch a ni am weithgareddau gwasgu sudd, blasu, cerddoriaeth,bwyd a gweithgareddau.  Bydd ein harbenigwyr afalau wrth law i roi cyngor.

👇

Luminate Wales

Following our sell-out debut year in 2019, Luminate Wales returns to Margam Country Park and Castle in Winter 2021.
A spectacular, illuminated trail, full of wonder and intrigue, to delight and enthral your senses.

For Further details and book tickets visit 👇

Mae Parc Margam wedi'i gofrestru'n ardd ac yn dirwedd Gradd I lle mae'r ymwelydd yng nghanol coed

Mae Parc Margam wedi'i gofrestru'n ardd ac yn dirwedd Gradd I lle mae'r ymwelydd yng nghanol coed

Cafodd y plasty ei adeiladu rhwng 1830 a 1840 am £50,000 gan ddefnyddio tywodfaen o chwarel y Pîl gerllaw. Ac yntau'n blasty o safon eithriadol wedi'i gofrestru'n Radd 1, mae gan y castell nodweddion trawiadol megis y neuadd risiau enfawr a'r tŵr wythonglog.

Mae Parc Margam wedi'i gofrestru'n ardd ac yn dirwedd Gradd I lle mae'r ymwelydd yng nghanol coed, llwyni a blodau prydferth, peintiadau clasurol a modern, a llynnoedd a golygfeydd helaeth sydd wedi datblygu ers yr Oesoedd Canol.

Tirlun a Bywyd Gwyllt

Tirlun a Bywyd Gwyllt

Mae'r ceirw heddiw yn crwydro drwy oddeutu 500 erw (200 hectar) o barcdir. Mae'n dyddio o gyfnod y Normaniaid, er bod nifer o gyfeiriadau at geirw yn yr ardal hon yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid.

Mae'r diffyg ymyrraeth gymharol, ac amrywiaeth mawr y cynefinoedd wedi hybu amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid yn y parc.

Ymhlith y mamaliaid mwyaf cyffredin y mae llwynogod, moch daear, ysgyfarnogod, gwiwerod llwyd, llygod y gwair a chwistlod. Mae gwahaddod niferus yn rhan isaf y parc, ac mae hynny'n amlwg wrth weld pridd y wadd.

Mae'r llynnoedd yn gartref i'r alarch dof, y gwtiar, gwyddau Canada, hwyaid gwylltion, hwyaid copog a hwyaid pengoch, a chaiff y sylwedydd craff ac amyneddgar weld glas y dorlan ger y nentydd.

Gweithgareddau i bawb

Gweithgareddau i bawb

Mae Parc Gwledig Margam yn cynnig rhywbeth gwahanol i wahanol bobl.

O gerdded i feicio ... cyfeiriannu, pysgota bras, gwylio'r ceirw, mwynhau'r amgylchedd gwych y mae'r parc yn ei ddarparu.

Dewch i fwynhau Go Ape, sef antur yn y coed gorau'r DU. Ewch i'r frigau'r coed ac yna i lawr y llithren sip. Maent yn rhan o gwrs cyffrous o bontydd rhaffau, siglenni a chroesfannau Tarzan; a'r cyfan oll wedi'u gosod uwchben llawr y goedwig.
Yn Margam Parc Adventure, gallwch chi fwynhau llu o weithgareddau

Beth sydd ymlaen?

Mwy
© Parc Gwledig Margam