Hepgor gwe-lywio

Disgrifiadau Rôl

Disgrifiadau Rôl

Rydym yn siŵr bod gennym rôl wirfoddol i fodloni ystod eang o ddiddordebau a phob gallu. Mae croeso i chi edrych ar ein disgrifiadau rôl isod, os oes gennych ddiddordeb, yna mae gwneud cais i fod yn wirfoddolwr yn broses hawdd.

Os oes gweithgareddau gwirfoddoli y mae gennych ddiddordeb ynddynt, ond nid ydynt wedi'u cynnwys isod, yna cysylltwch â ni i weld a allwn fodloni eich cais.

Garddwr Gwirfoddol

Fel garddwr gwirfoddol, byddwch yn gweithio yn y gerddi hanesyddol ac mae'r tasgau'n cynnwys plannu, tocio, chwynnu a hau hadau.  Os ydych chi'n arddwr brwd neu'n dymuno cael awgrymiadau a chyngor ar gyfer eich gardd eich hun, bydd gweithio fel garddwr gwirfoddol yn rhoi profiad gwych i chi, a gallwch ddysgu gan ein prif arddwr profiadol.

Tywysydd Gwirfoddol

Yng nghraidd hanesyddol y parc, mae tywyswyr yn helpu ymwelwyr i fwynhau adeiladau a gerddi hanesyddol y parc, ac mae eu prif dasgau'n cynnwys creu sgriptiau ar gyfer teithiau tywys ar wahanol bynciau;  cynnal teithiau tywys gyda grwpiau bach o ymwelwyr o gwmpas adeiladau a gerddi hanesyddol y parc (darparu gwybodaeth ar lafar a nodi pwyntiau o ddiddordeb); ateb cwestiynau ar hanes y parc.

 

Lawrlwytho Disgrifiadau o Rolau Gwirfoddol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cymerwch gip ar ein 'cwestiynau cyffredin', mae'r rhain yn cwmpasu bron popeth, o dreuliau i gyfyngiadau oedran.

 

 

© Parc Gwledig Margam