Hepgor gwe-lywio

Pam gwirfoddoli?

Dysgu a datblygu sgiliau newydd mewn garddio, cadwraeth treftadaeth, gwasanaeth cwsmeriaid ... mae'r rhestr yn ddiddiwedd!

Pam gwirfoddoli? 

Mae gan bawb eu rhesymau eu hunain dros wirfoddoli, dyma rai o'r rhesymau pam mae ein gwirfoddolwyr yn helpu yn y parc:

  • Dysgu a datblygu sgiliau newydd mewn garddio, cadwraeth treftadaeth, gwasanaeth cwsmeriaid ... mae'r rhestr yn ddiddiwedd!
  • Ennill profiad gwaith gwerthfawr
  • Gwella eich CV
  • Hybu'ch hyder
  • Gwneud ffrindiau newydd
  • Cael llawer o hwyl mewn lleoliad gwych
  • Byddwch yn falch o wneud gwahaniaeth mawr ym Mharc Gwledig Margam

Cymerwch gip ar y disgrifiadau o'n rolau gwirfoddoli i weld a oes gennym rôl wirfoddoli sy'n addas i chi.

Dyfyniadau gan Wirfoddolwyr

"Doeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn i'n ymgymryd â rôl wirfoddol. Dwi mor falch fy mod wedi cymryd y cam i gysylltu â Lucy. Rwy'n mwynhau'n fawr ac yn edrych ymlaen at bob dydd Iau! Ar ôl bywyd gwaith prysur, roeddwn i'n meddwl y byddai gen i lai o egni wedi i mi ymddeol. Ond nid dyna mor achos o gwbl pam rydych chi'n arddwr gwirfoddol ym Mharc Gwledig Margam! Mae'n amgylchedd mor wych i weithio ynddo. Mae'r gwaith yn ddiddorol ac yn werth chweil. Rwy'n gweithio gyda staff a gwirfoddolwyr eraill sydd wedi gwneud i mi deimlo'n gartrefol. Rwy'n teimlo fy mod yn gwneud cyfraniad bach i gynnal ardal awyr agored hynod brydferth fel gall y cyhoedd gael ei mwynhau cymaint ag ydw i. Os ydych chi'n credu bod gwirfoddoli yn rhywbeth yr hoffech ei wneud yn eich amser hamdden - cysylltwch a rhowch gynnig arni." (Rhydian – Y Gerddi)

 

"Ar ôl gweithio mewn swyddfa am dros 40 mlynedd, gwnes i ymddeol yn ddigon hapus ac yna penderfynais wirfoddoli fel garddwr ym Mharc Margam. Mae hwn yn lle ardderchog i weithio gydag amgylchedd hardd ac mae tîm gwych o arddwyr ymrwymedig yno sy'n barod i rannu eu gwybodaeth. Mae fy mhrofiad i o wirfoddoli ym Mharc Margam yn profi nad ydych byth yn rhy hen i roi cynnig ar rywbeth newydd, cwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau gwahanol. " (Jan – Y Gerddi)

 

"Parc Margam yw trysor Castell-nedd Port Talbot, mae'n lle arbennig mewn ardal ddiwydiannol. Es i i'r ysgol ger y parc ac roedd yn fy swyno i oherwydd bod gardd gyfrinachol mewn perchnogaeth breifat yno, a'r unig beth y gallech ei wneud oedd edrych ar ffotograffau o'r lle. Ar ôl ymddeol bron i dair blynedd yn ôl, achubais ar y cyfle i wirfoddoli yma. Mae gwirfoddoli yma yn rhoi boddhad i mi, byddwch allan yn yr awyr agored yn cwrdd â phobl, gan gynnwys ymwelwyr o dramor. Pan oeddwn i'n gweithio, prynais docyn tymor i'r parc ac roedd fy mhlant wrth eu bodd yn mynd yno. Yn wir erbyn 2018 bydd fy nwy ferch wedi priodi yn yr Orendy. Yn ddiweddar, gofynnais i fy ngŵyr pedair blwydd oed os oedd am fynd i'r prom am hufen iâ, ac fe ddywedodd "Na, rydw i am fynd i Barc Margam!" (Allan - Tywysydd)

"Mae gwirfoddoli ym Mharc Margam wedi annog fy mrwdfrydedd mewn garddio a garddwriaeth. Gan weithio ar brosiectau gyda'r tîm garddio, rwyf wedi ennill hyfforddiant, profiad a gwybodaeth amhrisiadwy." (Lisa – Y Gerddi)

"Mae gwirfoddoli ym Mharc Margam wedi bod yn brofiad gwych. Rwyf wedi dysgu sgiliau newydd a chwrdd â phobl ysbrydoledig." (Gavin – Y Gerddi)

 

 

© Parc Gwledig Margam