Hepgor gwe-lywio

Cymryd Rhan

Mae bod yn wirfoddolwr ym Mharc Gwledig Margam yn brofiad gwerthfawr

Mae bod yn wirfoddolwr ym Mharc Gwledig Margam yn brofiad gwerthfawr, cofiadwy a llawn hwyl! Drwy ymuno â'n cymuned o wirfoddolwyr, byddwch chi'n gwneud digon o ffrindiau newydd, yn datblygu sgiliau newydd a rhai sydd gennych eisoes ac yn gwneud gwahaniaeth mawr ym Mharc Margam.

Gyda nifer o rolau gwirfoddoli amrywiol, rydym yn sicr bod gennym rywbeth i bawb ... o arddio yn y gerddi hanesyddol, sgwrsio ag ymwelwyr fel tywysydd neu helpu gyda digwyddiadau a gweithgareddau i deuluoedd; mae ein rolau gwirfoddoli llawn hwyl yn ymarferol ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'r parc.

Bydd yr holl wirfoddolwyr yn derbyn cefnogaeth fentora gan ein Cydlynydd Gwirfoddolwyr, yn derbyn hyfforddiant am ddim, yn cael treuliau parod y cytunwyd arnynt, ac yn cael mwynhau nifer o deithiau a digwyddiadau cymdeithasol.

Cymerwch gip ar ein rolau gwirfoddoli, sut y gallwch chi elwa o wirfoddoli gyda ni a sut mae gwneud cais.

© Parc Gwledig Margam