Hepgor gwe-lywio

Cwm Phillip Valley

Cwm Phillip

  • Mae'r llethr y tu hwnt i'r Pulpud yn disgyn i Gwm Phillip.
  • Plannwyd coed cymysg ar y llethr bellaf gan gynnwys cerddin, ynn a derw.
  • Gellir gweld celynnen fawr wrth ochr y llwybr.

Holly

  • Mae aeron celyn a chriafol (aeron cerddin) yn dda fel byrbrydau hydrefol i adar, megis y ji-binc yn y llun.

Chaffinch

  • Mae'r llethr redynog yn gynefin gwych i lawer o famaliaid bach. Maent yn creu rhwydwaith o dwneli o dan gysgod y llystyfiant.
  • Yn aml gwelir adar ysglyfaethus yn hela ar hyd y dorlan. Cudyll coch gwryw yw hwn.

Kestrel

  • Mae'r nant sydd ar hyd gwaelod Cwm Phillip yn llifo i'r Pwll Pysgod a welsom yn gynharach.

Stream

© Parc Gwledig Margam