Hepgor gwe-lywio

Marmor y Mwmbwls a Margam

Marmor y Mwmbwls a Margam


Cyflwyniad

Prin iawn yw'r hyn a ysgrifennwyd am Farmor y Mwmbwls a'r diwydiant cysylltiol tan yn ddiweddar ac mae'r manylion a gyhoeddwyd yn fyr ond ceir cyfeiriadau at Fargam. Mae astudio'r pwnc hwn a'r ymchwiio i enghreifftiau pellach a'u cofnodi yn parhau.


Beth yw Marmor y Mwmbwls?

Marmor yn yr ystyr masnachol yw Marmor y Mwmbwls, neu Farmor Abertawe neu Gambriaidd, sef calchfaen y gellir ei sgleinio i gynhyrchu carreg ddeniadol yr olwg. Ffurfiwyd calchfaen Marmor y Mwmbwls tua 350 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn ystod y cyfnod Carbonifferaidd o ran amser daearegol. Bryd hynny, roedd y Mwmbwls i'r de o'r Cyhydedd o dan fôr bas gyda hinsawdd trofannol mae'n debyg. Cafodd y gwaddodion a gasglai ar lawr y môr bas eu cywasgu'n galchfaen, eu codi ac yna eu cloddio filiynau o flynyddoedd wedyn.

Heddiw mae'n bosib gweld y calchfaen yn brigo'n naturiol mewn sawl man yn ardal y Mwmbwls. 200 mlynedd yn ôl, dewiswyd darnau o'r calchfaen ar gyfer ei dorri a'i sgleinio i gynhyrchu Marmor y Mwmbwls sydd o liw llwyd amrywiol, gyda gwythiennau gwyn calchid ac weithiau gellir gweld ffosiliau hefyd. Mae lliw afu i'w gael hefyd, lle mae'r calchfaen wedi'i staenio gan haearn ocsid.


Cynhyrchu Marmor y Mwmbwls

Nid yw'r garreg yn adnabyddus heddiw ond yn ystod y 19eg Ganrif fe'i defnyddiwyd yn helaeth. Mae hysbysebion o'r cyfnod yn cyfeirio at eitemau fel simneiau, cofebau, beddrodau, lloriau neuaddau, baddonau, byrddau, meinciau llaethdai ac ystlysbyst, wynebynnau a slabiau plaen ar gael am bedair swllt y droedfedd.

Yn ôl pob tebyg, cloddiwyd yr haenau a'r slabiau neu'r gwelyau calchfaen a ddefnyddiwyd ar gyfer Marmor y Mwmbwls yng Nghwar Colts Hill yn y Mwmbwls ac yna fe'u cludwyd ar gart a cheffyl i'r felin farmor i'r gogledd o Westy West Cross heddiw, sef Norton Burrows. Credir bod gwaith marmor West Cross wedi cau erbyn 1837.

Roedd Philip Rogers yr hynaf wedi gadael Gwaith Marmor y Mwmbwls yn 1826 ac wedi sefydlu busnes fel Gwaith Marmor Philip Rogers yn Abertawe. Ymunodd Philip Rogers yr Ieuengaf â'r busnes ac mae'r cofnodion yn awgrymu bod Gwaith Marmor Philip Rogers a'i Fab wedi masnachu tan 1876. Mae'r cofebau marmor a gynhyrchwyd ganddynt yn parhau ac yn bwysig yng nghyd-destun Marmor y Mwmbwls. Bu farw Philip Rogers yr Ieuengaf ar 24 Chwefror 1902 yn 2 Stryd De La Beche, Abertawe yn 93 oed, ac ef bryd hynny oedd preswyliwr hynaf Abertawe.


Y bobl a Marmor y Mwmbwls ym Margam

Roedd pedwar dyn yn gysylltiedig â gwaith marmor West Cross sef William Gubbins, Charles Wallis, William Watts a Mr Griffiths. Nhw hefyd fu'n ymwneud â'r gwaith adfer pwysig yn Abaty Margam a gychwynnodd yn 1805 a'i gwblhau yn 1809.

Charles Wallis, pensaer o Abertawe oedd goruchwyliwr y gwaith. Penodwyd William Gubbins yn ben masiwn, gan godi pedwar swllt y dydd am ei waith gyda Mr Griffiths yn cynorthwyo Mr Gubbins, a Mr Watts yn ymwneud â'r peintio.

William Gubbins oedd y pen masiwn o ran adeiladu beddrod Thomas Mansel Talbot a'r Orendy ym Margam. Bu farw ar 1 Mai 1823, yn 81 oed ac mae wedi'i gladdu yn Abaty Margam, ac roedd yn byw yng Nghefn Cribwr pan fu farw. 

Mae'r cofnodion yn dangos mai cynllunydd beddrod Thomas Mansel Talbot oedd William Weston Young o Fryste a Chastell-nedd - arlunydd, darlunydd porslen Abertawe; syrfëwr tir; melinydd; marsiandïwr; pensaer; drafftsmon; codwr llongddrylliadau a gweithgareddau achub ... dyn nodedig a dawnus dros ben! Ymhlith llawysgrifau Margam yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth mae pedwar lluniad lliw mawr a gynhyrchodd ar gyfer y beddrod. Roedd yn athrylith dyfeisgar, ond doedd dim pen busnes ganddo a daeth nifer o'i drafodion busnes i ben yn drychinebus. Daeth anffawd yn sgîl popeth a wnaeth a threuliodd ei henaint mewn tlodi.


Defnyddio Marmor y Mwmbwls ym Margam

Ceir cofnodion o enghreifftiau o eitemau o Farmor y Mwmbwls yn Eglwys Fair yr Abaty a Chastell Margam.

Castell Margam

Ceir bil gan Mr Philip Rogers, dyddiedig 1833, i C.R.M.Talbot Ysw.A.S., Margam. Mae'n cyfeirio at Simne Gothig o Farmor y Mwmbwls am £6.00 a saith simne Marmor y Mwmbwls arall. Dim ond pedair o'r rhain sydd wedi goroesi ac mae eu cyflwr yn amrywio'n fawr.

Mae llefydd tân Marmor y Mwmbwls o galchfaen gydag gwead 'breccio' ffug, gwythiennau calchid gwyn ac yn cynnwys ffosiliau fel cwrel, cregyn braciopod a boldroediaid. Mae'r llefydd tân newydd yn null lle tân a geir yn Abaty Singleton, Abertawe. Credir ei fod wedi dod o Waith Marmor Philip Rogers.

Abaty Margam

Beddrod Thomas Mansel Talbot

Mae beddrod Thomas Mansel Talbot o dan y murlun Mansel ym mhen dwyreiniol Capel Talbot. Flwyddyn wedi ei farwolaeth yn ei fila yn Penrice yn 1813, comisiynodd y teulu ac Ymddiriedolwyr yr ystad William Weston Young o Fryste a Chastell-nedd i gynllunio a chodi cofeb addas ac urddasol er cof amdano. Bu Young wrthi dros gyfnod o saith mlynedd yn paratoi'r cynlluniau ac yn llunio manylebau manwl, a chwblhawyd y rhan fwyaf o'r gwaith rhwng 1815-1816 a chost y prosiect, a gwblhawyd yn gynnar yn 1820, oedd £168.16s.71/2d

Mae'r beddrod yn enghraifft wych o'r marmor cerfiedig ac mae'r dogfennau'n cadarnhau mai carreg o'r Mwmbwls ydyw. Calchfaen llwyd gyda gwythiennau calchid gwyn yw pen uchaf y beddrod ar gost o £18.3s.6d ac mae cyfrif arall o gostau codi'r beddrod fel a ganlyn:

'Carreg o'r Mwmbwls, 25 troedfedd, £5: 2 ddiwrnod o brosesu £2.20'

Yn Eglwys Abaty Margam mae sawl marmor gwahanol gwych gan gynnwys rhai o Gymru, Iwerddon a'r Eidal. Mae'r enghreifftiau o Farmor y Mwmbwls o ddiddordeb arbennig.

Mewn mannau eraill yn Abaty Margam mae sawl coflech ar y waliau sydd yn berthnasol:

Mae un coflech er cof am William Bruce Knight, un o gynddeiliaid yr Abaty, hefyd yn cynnwys enw'r cyflenwr sef P.Rogers, Abertawe ac mae'r goflech hon yn cael ei dal yn ei lle gan flocyn o galchfaen sgleiniog sydd wedi'i ddynodi fel Marmor y Mwmbwls. Felly hefyd un arall er cof am William Llewellyn sy'n cael ei dal yn ei lle gan ddau ddarn pellach o Farmor y Mwmbwls. Mae coflech arall, yng Nghapel Talbot yn cael ei dal yn ei lle gan floc sgleiniog o Farmor y Mwmbwls.

Cofnodir bedyddfan yr Abaty fel Marmor y Mwmbwls, a cheir llun ohono yn stori Abaty Margam. Ond mae archwiliadau diweddar wedi dangos bod y pen a'r sylfaen o ddau fath gwahanol o graig a chredir bod y pen lliw llwydfelen o galchfaen crinoidaidd bras o sir Ddinbych, a'r sylfaen o liw cochlyd yn wahanol iawn ac o bosib o Farmor Coch Corc yn Iwerddon, a oedd yn boblogaidd iawn o'r 1830au tan y 1920au. Ei enw cyffredin oedd Marmor Fictoraidd.

Gwnaed gwaith adfer sylweddol yn yr eglwys rhwng 1872 -73 a cheir cyfeiriad at ddisodli'r bedyddfan gwreiddiol a osodwyd yn ystod yr adferiad yn 1805-09 gyda 'chalchfaen crinoidaidd hardd' ……. Felly beth ddigwyddodd i'r bedyddfan gwreiddiol o Farmor y Mwmbwls - a gafodd ei roi i eglwys arall yn yr ardal?


Lleoliadau eraill lle ceir enghreifftiau o Farmor y Mwmbwls

I'r rheiny sydd wedi'u swyno gan stori'r garreg, ceir enghraifft arall wedi'i chofnodi yn Eglwys y Santes Fair yn Aberafan y gellir ymweld â hi. 

Yn anffodus, dymchwelwyd nifer o'r tai mawr yn yr ardal neu fe'u hailadeiladwyd. Yn ffodus mae llawer o eglwysi yn dal i fodoli a gallent fod yn ffynhonnell werthfawr.


Y bedyddfan a ddiflannodd

… byddai croeso mawr i wybodaeth bellach ar hyn neu enghreifftiau lleol eraill posib o Farmor y Mwmbwls.


Detholiad o gyfeiriadau pellach ar Farmor y Mwmbwls ym Margam

  • Adams,D.J.,1984, The restoration of Margam Abbey Church in the 19th Century
  • Adams,D.J.,1988,The Tomb of Thomas Mansel Talbot, An Anthology
  • Austin, R.L. 1999,Mumbles Marble and its association with Swansea and District
  • Austin, R.L & Murray,A.,2001,Mumbles Marble – An Update