Gerddi
Mae Parc Margam wedi'i gofrestru'n ardd ac yn dirwedd Gradd I lle mae'r ymwelydd yng nghanol coed, llwyni a blodau prydferth, peintiadau clasurol a modern, a llynnoedd a golygfeydd helaeth sydd wedi datblygu ers yr Oesoedd Canol.
Pan ddaeth y parc i feddiant yr Awdurdod ym 1973, roedd rhan helaeth o'r adeilad a'r gerddi o'i gwmpas yn adfeiliedig ond mae cryn dipyn o waith wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd ers hynny. Mae'r Orendy wedi'i adnewydddu'n ychwanegu at y casgliad eclectig o adeiladau ar y safle ac mae gerddi'r Orendy'n cynnwys llawer o goed a llwyni diddorol gan gynnwys sawl coeden diwlip fawr, derwen gorc a ffawydden dorddail fawr.
Ar bob ochr i Risiau'r Llwybr Eang mae llwyth o rododendronau gogoneddus a gyflwynwyd i'r parc gan Frank Kingdom Ward, a gerllaw gallwch weld y Casgliad Bambŵ a gardd Japaneaidd.
Yn sgîl buddsoddiad ariannol diweddar yng ngerddi'r Orendy, bu modd ail-greu'r berllan ac ailosod y pergola. Mae llawer o blanhigion newydd wedi cael eu plannu ar draws yr holl safle, o'r gerddi ffurfiol o gwmpas y Castell i'r gerddi addurnol a'r gerddi mynachaidd yn ardal yr Abaty.
Mae gerddi Margam yn barod am gyfnod newydd yn eu datblygiad a chaiff cynlluniau i'r dyfodol eu hystyried yn ofalus er mwyn gwneud Margam yn lle cyffrous i ymwelwyr, gan ddatblygu'n un o'r gerddi mwyaf diddorol yn ne Cymru.