Tirlun a Bywyd Gwyllt
Mae'r ceirw heddiw yn crwydro drwy oddeutu 500 erw (200 hectar) o barcdir. Mae'n dyddio o gyfnod y Normaniaid, er bod nifer o gyfeiriadau at geirw yn yr ardal hon yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid.
Mae'r diffyg ymyrraeth gymharol, ac amrywiaeth mawr y cynefinoedd wedi hybu amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid yn y parc.
Ymhlith y mamaliaid mwyaf cyffredin y mae llwynogod, moch daear, ysgyfarnogod, gwiwerod llwyd, llygod y gwair a chwistlod. Mae gwahaddod niferus yn rhan isaf y parc, ac mae hynny'n amlwg wrth weld pridd y wadd.Mae'r llynnoedd yn gartref i'r alarch dof, y gwtiar, gwyddau Canada, hwyaid gwylltion, hwyaid copog a hwyaid pengoch, a chaiff y sylwedydd craff ac amyneddgar weld glas y dorlan ger y nentydd.
Our Chapter House Tree has been crowned 'Wales Tree of the Year 2020'.
Mae Parc Margam wedi'i gofrestru'n ardd ac yn dirwedd Gradd I lle mae'r ymwelydd yng nghanol coed
Cafodd y plasty ei adeiladu rhwng 1830 a 1840 am £50,000 gan ddefnyddio tywodfaen o chwarel y Pîl gerllaw. Ac yntau'n blasty o safon eithriadol wedi'i gofrestru'n Radd 1, mae gan y castell nodweddion trawiadol megis y neuadd risiau enfawr a'r tŵr wythonglog.Mae Parc Margam wedi'i gofrestru'n ardd ac yn dirwedd Gradd I lle mae'r ymwelydd yng nghanol coed, llwyni a blodau prydferth, peintiadau clasurol a modern, a llynnoedd a golygfeydd helaeth sydd wedi datblygu ers yr Oesoedd Canol.
Gweithgareddau i bawb
Mae Parc Gwledig Margam yn cynnig rhywbeth gwahanol i wahanol bobl.
O gerdded i feicio ... cyfeiriannu, pysgota bras, gwylio'r ceirw, mwynhau'r amgylchedd gwych y mae'r parc yn ei ddarparu.
Dewch i fwynhau Go Ape, sef antur yn y coed gorau'r DU. Ewch i'r frigau'r coed ac yna i lawr y llithren sip. Maent yn rhan o gwrs cyffrous o bontydd rhaffau, siglenni a chroesfannau Tarzan; a'r cyfan oll wedi'u gosod uwchben llawr y goedwig.Yn Margam Parc Adventure, gallwch chi fwynhau llu o weithgareddau
Love Margam Country Park? Why not become a member.
Our Park Membership is full of benefits and is a great way to make the most of the Park if you visit often.
No events found.