Hepgor gwe-lywio

Nosweithiau Paranormal

Nosweithiau Paranormal

Mae Castell Margam ar gael i'w logi'n breifat. Mae hyn yn caniatáu i chi, a chi yn unig, ddefnyddio'r castell i gynnal ymchwiliadau paranormal.

Gweithgarwch paranornal:

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r adroddiadau niferus o weithgarwch paranormal wedi dod ag ymchwiliadau seicig i'r adeilad rhyfeddol hwn. Mae adroddiadau am fannau oer a llachar yn y castell ar nosweithiau gweithgarwch paranormal, yn ddychrynllyd o niferus. Mae'n ymddangos bod y castell yn llawn egni seicig.

Mae sŵn plant yn chwerthin yn aml i'w glywed drwy'r coridorau hir ac ystafelloedd dramatig yr ardaloedd teuluol. Cafwyd adroddiadau am blant yn symud i mewn ac allan o ddrysau mewn gwisgoedd o oes Victoria ac yn symud gwrthrychau yn ddireidus.

Mae ffigwr mawr y gof hefyd yn weledigaeth sy'n gyfarwydd i lawer o'r ciperiaid a'r staff garddio heddiw sy'n cynnal a chadw tiroedd helaeth y castell. Yn y nos, mae swyddogion diogelwch y castell wedi adrodd eu bod wedi clywed sŵn traed yn rhedeg a sŵn lleisiau'n clebran heb arwydd o unrhyw un arall yn yr adeilad.

Yr ysbryd mwyaf treisgar a chynddeiriog yn sicr yw Robert Scott. Dywedir iddo fod wedi cau drysau'n glep a thaflu gwrthrychau, a bod ganddo bresenoldeb rhagargoelus.

Gallai nifer y straeon paranormal sy'n dod o'r castell yn rheolaidd ei wneud yn gystadleuydd ar gyfer y tŷ mwyaf bwganllyd ym Mhrydain.

Roedd pennod 'Paranormal Lockdown' a ddarlledwyd yn ddiweddar yn cynnwys y castell.

 

© Parc Gwledig Margam