Mae'r parc yn falch o ddadorchuddio ‘Yr Hydd’, sef cerflun nodedig newydd.
Rydym yn diolch i Gyfeillion Parc Margam am helpu i ddod â'r gwaith celf campus hwn i'r parc. Mae'r darn anhygoel hwn yn ailgydio yn thema'r arddangosyn ‘Dur ym Myd Natur’ gan Chris Crane Fine Art a fu yn y parc yn 2017.
Mae pob manylyn ‘Yr Hydd’ yn adlewyrchu gweledigaeth yr artist i greu gwaith celf syfrdanol sy'n ysbrydoli sgwrs drwy ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu. Mae wir yn adlewyrchu creadigrwydd a brwdfrydedd ein cymuned, gan dynnu sylw at ffyrdd anhygoel gwaith celf o ddod â ni'n nes at fyd natur.
Mae Chris yn gweithio gyda gwrthrychau dur sydd wedi'u hadfer, offer rhydlyd sydd wedi pydru yng nghefn sied, darnau o fetel sydd wedi'u golchi i'r lan, ac olion eraill gorffennol diwydiannol yr ardal. Crëwyd yr hydd o wrthrychau dur sydd wedi'u hadfer, ac mae llawer o'r gwrthrychau a'r rhannau'n weladwy o hyd.
Mae rhan fawr o'r corff a'r gwddf yn deillio o ddwy olwyn lori a hanner.
Defnyddiwyd pedolau a dolenni pleiars yn y clustiau a rhannau o'r wyneb, a chrëwyd yr amrantau gan ddefnyddio clampiau sgaffaldwaith.
Mae prif ffurf y cyrn wedi'u hadeiladu drwy godi sbigynnau o hen dractor, ac mae'r pwyntiau wedi'u gwneud o flaenau hoelbrenni, ochr yn ochr â'r ddau bwynt cyntaf, a grëwyd o hen gaib wedi’i thorri ar ei hanner.
Defnyddiwyd sbaneri yn y rhan fwyaf o rannau’r cerflun, o greu'r ffroenau, y coesau, y gynffon a'r carnau, ynghyd â llawer o wrthrychau a rhannau eraill megis morthwylion hollt, ceibiau, bachau, bolltau, hen farrau cyfnerthedig a cholfachau drysau eglwys.
Mae'r rhain wedi'u cyfuno i greu ffurf gyfan yr hydd.