Hepgor gwe-lywio

Golau, Camera, amdani!

Darganfyddwch pwy sydd wedi bod i'r parc - ffilm a theledu!

Mae Parc Gwledig Margam gyda'i dirwedd amrywiol ac adeiladau anhygoel yn darparu man cychwyn gwych ar gyfer ffilmio - ar gyfer y teledu a chynyrchiadau sinema. Dyma ddetholiad o'r hyn sydd wedi'i ffilmio yma, ond beth am lawrlwytho ap ffôn clyfar y parc 'Discover Margam' sydd am ddim? Mae ganddo adran sy'n ymwneud â lleoliadau ffilm a theledu - ac yn caniatáu i chi 'fod yn y ffrâm' gyda rhai o'r sêr!

Doctor Who: Ers 2007, mae'r BBC wedi defnyddio'r parc fel lleoliad ar gyfer rhannau amrywiol o gyfres Doctor Who. Dangosir yr holl leoliadau a ddefnyddiwyd ar y ddwy wefan.

Mae'r holl leoliadau yn hawdd i'w canfod yn y parc. Felly, y tro nesaf y byddwch chi'n ymweld, cadwch lygad am y Tardis!

Yng ngwanwyn 2012 ffilmiwyd y cyntaf o gyfres Da Vinci's Demons yn y parc.

Mae rhaglun i'w weld yma!

Cyfres ddrama ffantasi hanesyddol oedd Da Vinci's Demons oedd yn cyflwyno hanes ffuglennol bywyd cynnar Leonardo da Vinci. Syniad David S. Goyer oedd y gyfres gyda Tom Riley yn chwarae'r brif ran. Fe'i datblygwyd a'i cynhyrchwyd ar y cyd â BBC Worldwide ac mae'r gyfres wedi'i dosbarthu i dros 120 o wledydd.

 

Ym mis Chwefror 2017 daeth Netflix i'r parc i ffilmio ffilm gyfnod gyffrous am ddialedd, Apostle, a ysgrifennwyd ac a gyfarwyddwyd gan Gareth Evans, gyda Michael Sheen, Lucy Boynton, Bill Millner, a Kristine Froseth yn ymuno â'r cast ynghyd â'r enwog Dan Stevens o Downtown Abbey. Dyddiad rhyddhau i'w gadarnhau.

© Parc Gwledig Margam