Hepgor gwe-lywio

Tŷ'r Tyrbin

Prosiectau Ynni Cynaliadwy

Tŷ'r Tyrbin 

Bu Castell-nedd Port Talbot a CADW yn gweithio mewn partneriaeth i helpu i adfer system hydrodrydanol a Thŷ Tyrbin ym Mharc Margam.

Mae tŷ tyrbin hanesyddol, a oedd yn un o'r cyntaf yn y DU i bweru cartref, wedi'i adfer i ddarparu trydan unwaith eto i ystâd Margam. Fe'i gosodwyd yn wreiddiol ym 1891, ar gais Emily Charlotte Talbot, y perchennog ar y pryd. I ddechrau, roedd y system hydrodrydanol a bwerwyd gan nant gyfagos, yn cynhyrchu digon o drydan i bweru 400 o lampau. Fe'i disodlwyd yn y 1950au ond nid oedd wedi'i defnyddio ers blynyddoedd lawer. Dyfeisiwyd y tyrbin gwreiddiol gan Drake and Goreham o Westminster, ond cafodd ei symud a'i gludo i Dde Affrica dros 60 o flynyddoedd yn ôl.

Mae'r Tŷ Tyrbin rhestredig Gradd II o bwysigrwydd hanesyddol mawr i Bort Talbot a'r DU, gan y credir mai Castell Margam yw'r ail dŷ domestig ym Mhrydain i gael cyflenwad trydan.

Bydd y Tyrbin sydd wedi'i adfer yn cynhyrchu trydan adnewyddadwy ar y safle ar gyfer adeiladau'r ystâd, gan gynnwys yr Orendy, gydag unrhyw drydan dros ben yn cael ei fwydo'n ôl i'r Grid Cenedlaethol.

Ymgymerwyd â'r prosiect mewn 2 gam: Penodwyd Acanthus Holden, Penseiri Cadwraeth, i ddatblygu cynllun adfer ar gyfer y Tŷ Tyrbin adfeiliedig, gwag, ac unwaith y cwblhawyd y dyluniad ac y cafwyd caniatâd cynllunio a chaniatâd adeilad rhestredig, rhoddodd y contractwyr adeiladu, David A Siggery Ltd o Gaerfyrddin, dendr cystadleuol llwyddiannus ar gyfer y prosiect.

Roedd adfer yr adeilad yn cynnwys atgyweirio'r to, gosod ffenestri a drysau newydd, clwydfan ystlumod, gosod cyfleustodau a gwasanaethau ac adnewyddu mewnol.Wedi i'r gwaith o adnewyddu'r adeilad gael ei gwblhau, penodwyd Heidra Ltd, Peirianwyr Mecanyddol, sy'n arbenigo mewn prosiectau ynni adnewyddadwy, i oruchwylio dylunio a chyflwyno'r system trydan dŵr ac adnewyddu'r tyrbin presennol.

Mae'r tyrbin yn cael ei bweru gan ddŵr a ddaw o'r pwll pysgod drwy bibell danddaearol sy'n rhedeg yr holl ffordd i lawr i'r tŷ tyrbin, o'r llyn - mae'n rhedeg o dan y grisiau trawiadol sy'n arwain o'r Orendy hyd at y Castell.

"Roedd Heidra yn falch iawn o dderbyn cais gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot i adnewyddu system hydrodrydanol y 1920au ym Mharc Gwledig Margam.  Mae'r tyrbin, a oedd yn pweru trydan y castell yn wreiddiol cyn i'r Grid Cenedlaethol fodoli, bellach wedi'i uwchraddio gyda rheolydd modern a chynhyrchydd trydan effeithlon i gyflenwi gwres a thrydan gwyrdd glân i bweru'r Parc."

Mae Tŷ'r Tyrbin ar agor i'r cyhoedd, ac mae’n rhoi cipolwg ar ddatblygiad generaduron ynni adnewyddadwy modern."

© Parc Gwledig Margam