- Rhaid beicio o fewn eich gallu
- Rhaid sicrhau bod eich beic yn ddiogel i reidio a pharatoi ar gyfer pob argyfwng.
- Rhaid bod gennych ryw fath o gerdyn adnabod.
- Rhaid i chi ddweud wrth rywun i ble ydych yn bwriadu mynd.
- Gall defnyddiau adlewyrchol ar eich dillad achub eich bywyd.
- Rhaid i chi wisgo helmed BOB TRO.
- Dylech fod yn arbennig o ofalus ar arwynebau ansefydlog neu wlyb.
- Rhaid cludo dwr, byrbrydau a dillad ychwanegol.
Mewn argyfwng, ffoniwch y gwasanaethau argyfwng (999). Os yw'r signal ar gyfer ffonau symudol yn wan, ffoniwch 112 ar gyfer y gwasanaethau argyfwng (ar gyfer unrhyw rwydwaith),
Ar ôl cysylltu â'r gwasanaethau argyfwng a/neu Geidwaid y Parc Coedwig, sicrhewch eich bod yn aros yn y man hwnnw.
Wrth feicio ar y llwybrau, cofiwch y ffordd, rhifau’r cyfeirbyst, enwau'r cymalau oherwydd gallai hyn arbed amser gwerthfawr petai’n rhaid chwilio amdanoch chi mewn argyfwng.