Hepgor gwe-lywio

Tyfwch goeden orennau o hedyn!

Tyfwch goeden orennau o hedyn!

Orange Tree

Ychydig iawn o bethau sy'n rhoi cymaint o foddhad â thyfu planhigyn o hedyn, a choeden orennau yw'r uchafbwynt, yn enwedig os ydych chi'n byw yn y gogledd oer.

Y tro nesaf y byddwch chi'n bwyta oren, cadwch yr hadau a dilynwch y camau hyn i dyfu eich coeden orennau eich hun.

RHOWCH GYNNIG ARNI! DYMA SUT…

  • Cadwch eich hadau oren. Golchwch nhw'n syth mewn dŵr lled gynnes a dechreuwch y broses blannu. Gallwch ddefnyddio'r dull tywel papur ar gyfer egino, ond mae'r dull pridd, a ddisgrifir yma, yn fwy effeithiol.
  • Paratowch gynhwysydd gyda phridd potio di-haint. Cyn ei lenwi â phridd gwnewch dyllau draenio. Mae cwpanau papur yn dueddol o fynd yn sych yn gynt, felly os ydych am dyllu gwaelod y cynhwysydd ar gyfer draenio, gwnewch tua pHedwar ar gyfer plastig a dau ar gyfer papur.
  • Plannwch eich hadau hanner modfedd o dan y pridd potio. Ychwanegwch ddigon o ddŵr i wlychu'r pridd, ond peidiwch â gadael iddo fynd yn gorslyd.
  • Gorchuddiwch y cwpan â bag plastig neu haenen lynu. Cofiwch wirio ei fod yn llaith yn rheolaidd.
  • Cadwch y pot mewn man cynnes. Nid oes angen golau haul ar yr adeg hon. Nid yw gosod y pot yn uniongyrchol o flaen rheiddiadur yn syniad da oherwydd yr effaith sychu.
  • Symudwch y pot i fan heulog a thynnwch y plastig unwaith y bydd yr hedyn wedi egino. Cadwch y pridd yn llaith o hyd. Trawsblannwch i gynhwysydd mwy parhaol pan fo'r eginblanhigion yn ddigon mawr.
    • POB LWC!!

AWGRYMIADAU A CHYNGOR!

  • Gall ffwng ddinistrio'ch planhigion ifanc, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dileu cymaint o bosibiliadau o lwydni ag y gallwch, gan gynnwys defnyddio pridd di-haint yn unig.
  • Yn ystod misoedd y gaeaf pan fydd yr aer yn arbennig o sych, bydd gorchuddio'r hadau a'r cwpan â bag brechdanau plastig a adawyd ar agor ar y gwaelod yn helpu i gadw lleithder.
© Parc Gwledig Margam