Hepgor gwe-lywio

Tyfu Ffrwythau Sitrws

Tyfu Ffrwythau Sitrws

O'u cymharu â nifer o blanhigion, mae hadau'r mwyafrif o rywogaethau Sitrws yn gymharol fawr a hawdd eu trin. Os cânt eu hau mewn compost hadau 'agored' mewn man golau â thymheredd tua 15°C, dylent egino o fewn dwy neu dair wythnos. Fodd bynnag, bydd yn cymryd sawl blwyddyn cyn iddynt ddechrau cynhyrchu blodau a ffrwythau.

  • Yn ogystal â lluosogi planhigion o hadau, gallant hefyd gael eu lluosogi trwy doriadau. Gellir gosod toriadau rhwng 100 a 150mm o hyd, sydd wedi eu gwneud yn agos at fonyn y planhigyn, mewn tywod llaith a bras ar dymheredd o 21°C a'u cadw mor llaith â phosibl hyd nes i'r gwreiddiau ffurfio - a ddylai fod o fewn ychydig fisoedd.
  • Nid yw planhigion sitrws yn hoff iawn o galch, felly pan fo'r eginblanhigion yn ddigon mawr i gael eu potio, dylid eu plannu mewn pot sy'n cynnwys compost grugaidd, yn ddelfrydol un â phridd yn sail iddo fel y rhai a ddatblygwyd gan Sefydliad John Innes. Y pH optimwm ar gyfer y compost yw 6, sydd ychydig ar ochr asidig niwtral.
  • Yn ystod y tymor tyfu, o'r gwanwyn i'r haf, bydd y planhigion yn elwa o ddefnyddio gwrtaith llawn nitrogen yn rheolaidd i hybu tyfiant cryf. Unwaith bydd y gaeaf wedi cyrraedd, bydd bwydo achlysurol gyda gwrtaith cytbwys yn fuddiol ac yn helpu i gadw'r planhigyn yn iach.
  • Er bydd angen digon o ddŵr ar eich planhigion mewn tywydd poeth, ni ddylid gadael iddynt fod o dan ddŵr oherwydd bydd hyn yn lladd y gwreiddiau a bydd eu dail yn cwympo. Yn yr un modd, os na fyddant yn cael digon o ddŵr, bydd y blodau yn cwympo a'r dail yn crino.
  • Unwaith bydd y perygl o rew wedi pasio, mae'n arferol i osod potiau mawr o sitrws mewn mannau cysgodol yn yr ardd. Er y byddant yn cael glaw, bydd y dail yn aml yn gweithredu fel ymbarél a bydd y glaw yn llifo oddi arnynt heb wlychu'r compost, felly dylid gwirio'r compost yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn llaith.
  • Y math gorau o bot yw un terracotta; mae'n hawdd dweud a yw'r compost yn sych ai peidio wrth dapio ochr y pot. Bydd gan bot clai sych mwy o dinc i'r sain wrth ei dapio na phot gwlyb ac maen nhw'n llai tebygol o ddal dŵr yn ormodol na rhai plastig. Y brif anfantais i'r potiau clai hyn yw eu pwysau a all fod yn llawer trymach na photiau plastig.
  • Gellir gwneud neu brynu cynwysyddion hirsgwar addurniadol, wedi'u modelu ar y rhai a ddefnyddiwyd ar gyfer tyfu Sitrws yng ngardd Versailles, ond rhaid ystyried eu pwysau a'u maint wrth eu symud i fan cysgodol unwaith bydd unrhyw berygl o rew.
  • Y dŵr gorau ar gyfer dyfrio'ch Sitrws fydd dŵr glaw glân gan na fydd hwn wedi derbyn unrhyw driniaeth gemegol a allai fod yn niweidiol i'r planhigion. Os nad oes digon o ddŵr glaw ar gael, mae'r defnydd o ddŵr tap 'meddal' yn well na dŵr 'caled' sy'n cynnwys calsiwm a fydd yn gadael haenennau hyll ar y dail.
  • Yn wreiddiol defnyddiwyd orendai, megis yr adeilad addurniadol gwych yma ym Margam, i gysgodi coed Sitrws dros y gaeaf; nid ydynt yn caniatáu i'r planhigion gael digon o olau iddynt dyfu'n iach yno drwy gydol y flwyddyn. Dylid cadw planhigion mewn man mor olau â phosib.
  • Cyn belled â bod rhywfaint o symudiad yn yr awyr a bod ganddynt leithder o gwmpas eu gwreiddiau, bydd coed orennau yn hapus yn nhymheredd poethaf misoedd yr haf. Fodd bynnag, yn gynnar yn yr hydref, cyn gynted ag y bydd y tymheredd yn dechrau cwympo, rhaid symud y planhigion i fan lle nad yw'r tymheredd yn is na 8 neu 10°C, nac yn codi llawer uwch na 15°C. Dylid eu cadw yn yr amgylchedd mwyn hwn drwy gydol y gaeaf hyd nes bydd y perygl o rew wedi pasio. Bydd hyn fel arfer ar ddiwedd mis Mai neu ar ddechrau mis Mehefin.
  • Nid oes angen tocio fel arfer, ond os yw'r tyfiant yn wan neu os yw'r llwyn yn ddi-siâp neu'n tyfu'n rhy fawr i'w le, gall y canghennau gael eu byrhau'n y gwanwyn.
© Parc Gwledig Margam