Hepgor gwe-lywio

Gwybodaeth am Deulu'r Oren

Gwybodaeth am Deulu'r Oren

  • Mae'r rhywogaeth Citrus yn perthyn i'r teulu Rutaceae, grŵp cosmopolitan o blanhigion sy'n cynnwys tua 1,650 o rywogaethau mewn 160 o wahanol fathau. Mae nifer ohonynt i'w cael mewn ardaloedd trofannol yn unig ond gwelir y mathau canlynol mewn gerddi a thai gwydr ym Mhrydain.
  • Enwodd Linnaeus, sef 'Tad Botaneg', y teulu hwn ar ôl y perlysieuyn 'Ruw', Ruta graveolens, y'i disgrifiodd gyntaf ym 1753. Defnyddiwyd ruw yn helaeth fel meddyginiaeth lysieuol yn y gorffennol ac fel perlysieuyn i roi blas, er bod ganddo flas siarp cryf ac mae'n gallu achosi anafiadau croen difrifol i rai pobl!
  • Mae cymcwatiau o rywogaeth Fortunella yn perthyn yn agos i'r Citrus. Caiff y rhain eu gwerthu fel planhigion ar gyfer y tŷ yn aml ac maent yn edrych yn hardd gyda'u dail addurnedig bytholwyrdd gyda llawer o orennau bychain. Mae cymcwatiau wedi cael eu croesi â'r gwir Citrus ac ystyrir eu bod yn gymharol galed gan eu bod yn gallu gwrthsefyll tymheredd mor isel â -8C. Planhigyn arall sy'n perthyn i'r Sitrws yw'r 'Oren Tairddeiliog', Poncirus trifoliate. Mae hwn yn blanhigyn pigog iawn â golwg orlawn, coesau gwyrddion a chlystyrau bach o ffrwythau melynaidd, crebachlyd na ellir eu bwyta. Mae wedi ei ddefnyddio fel gwreiddgyff gwydn ar gyfer trawsblannu amrywiaeth o gyltifarau oren ond nid yw mor boblogaidd â'r gwreiddgyff Citrus go iawn.
  • Mae nifer o'r rhywogaethau yn cynnwys planhigion gardd cyfarwydd; mae'r choisya ternata yn llwyn bytholwyrdd hardd, tua 1.2m o uchder, gyda dail tairddeiliog a chlystyrau o flodau gwyn ag iddynt arogl melys ym mis Ebrill a Mai. Mae'n adnabyddus fel 'Oren Mecsico' er nad yw'n dwyn ffrwyth noddlawn bwytadwy. Mae amrywiol fathau wedi cael eu croesi o Choisya ar gael, ac mae gan rai ddail aur, e.e. Choisya ternata 'Sundance', ac mae gan eraill megis Choisya ‘Aztec Pearl’, bum deilen gul neu fwy.
  • Mae'r Skimmia japonica yn llwyn bytholwyrdd poblogaidd arall sy'n perthyn i'r teulu hwn. Mae'n llwyn isel a chrwn sydd anaml yn uwch na 700mm. Mae clystyrau o ffrwythau bach coch yn para hyd nes y gaeaf ar ôl sioe hardd o flodau gwyn yn y gwanwyn.
  • Yn hanu o Awstralia, mae'r llwyni bytholwyrdd yn rhywogaeth y Correa yn cynhyrchu blodau tiwbaidd deniadol yn hongian mewn amrywiaeth o liwiau pastel. Er nad ydynt yn gwbl wydn, gall rhai rhywogaethau ffynnu mewn man cysgodol yn agos at y môr neu yn erbyn wal tŷ ond byddai'n well ganddynt gynhesrwydd tŷ gwydr.
  • Credir mae Dictamnus albus yw'r 'berth sy'n llosgi' y sonnir amdani yn y Beibl, aelod arall o'r teulu hwn. Mewn tywydd poeth a heulog bydd y planhigyn hwn yn rhyddhau olewau anweddol hawdd eu llosgi a bydd yn mynd yn wenfflam pan fydd rhywun yn ei gynnau.
© Parc Gwledig Margam