Hepgor gwe-lywio

Dysgu mwy am Sitrws!

Dysgwch am Blanhigion Sitrws

Orennau yw un o'r ffrwythau mwyaf poblogaidd sy'n cael eu bwyta ym Mhrydain, fodd bynnag, nid yw'n sicr o ble daeth y planhigion gwyllt yn wreiddiol. Gwyddom fod orennau a sitronau yn cael eu tyfu yn Tsieina mor gynnar â 2,200 CC.

  • Mae'n bosib bod hadau a phlanhigion wedi'u cludo gan fasnachwyr neu deithwyr i Iran ac Irac a chredir eu bod wedi eu tyfu yng Ngerddi Crog Babilon.
  • Roedd gan yr orennau cyntaf a dyfwyd yn ne Ewrop flas chwerw; yn wahanol i'r mathau yr ydym yn eu bwyta heddiw sydd â blas melys, ac fe'u defnyddiwyd at ddibenion meddyginiaethol yn ystod yr 11eg ganrif.
  • Ni chyrhaeddodd orennau melys Ewrop nes yr 16eg ganrif, ac yn ôl pob tebyg masnachwyr o Bortiwgal ddaeth â nhw, ac ar ôl y cyfnod hwn y cawsant eu tyfu'n eang.
  • Gan na allant wrthsefyll rhew difrifol, ni thyfwyd orennau ym Mhrydain tan y cyfnod Baróc yn yr 17eg ganrif pan greodd tirfeddianwyr cyfoethog orendai eithafol i'w hamddiffyn rhag tywydd y gaeaf.
  • Yn draddodiadol, caiff coed oren sy'n tyfu mewn potiau mawr eu rhoi i sefyll yn yr awyr agored yn ystod misoedd yr haf; gellir agor panel ym mlaen y tŷ gwydr hwn er mwyn caniatáu i goed uchel gael eu symud allan yn hawdd. Yna fe'u dychwelir i gysgod yr Orendy cyn i rew y gaeaf gyrraedd.
  • Mae orennau, lemonau, leimiau a grawnffrwythau yn llwyni bytholwyrdd maint canolig addurniadol iawn sy'n dwyn blodau ag arogl cryf a ffrwythau mawr deniadol.
  • Mae coed lemon bach yn blanhigion poblogaidd iawn ar gyfer y tŷ a'r ystafell wydr oherwydd byddant yn dwyn ffrwyth a blodau arogl melys ar yr un pryd. Mae rhai mathau'n oddefgar o dymheredd eithaf isel er na fydd unrhyw un ohonynt yn goddef rhewogydd trymion.
  • Yn wyddonol mae'r holl fathau o orennau, lemonau a leimiau yn perthyn i'r rhywogaeth Citrus ac ar hyn o bryd mae tua 20 o rywogaethau gwahanol yn cael eu cydnabod gan fotanegwyr.
  • Mae dros 70 miliwn o dunelli o orennau ar gyfer bwyta yn cael eu tyfu ledled y byd bob blwyddyn; defnyddir y rhan fwyaf o'r allbwn hwn i wneud sudd oren.
  • Y tyfwr mwyaf yn y byd yw Brasil gyda thua 20 miliwn o dunelli o ffrwythau yn cael eu cynhyrchu bob blwyddyn ac mae'r rhan fwyaf o'r cynnyrch hwn yn cael ei allforio.
  • Citrus sinensis, yw'r Oren Cyffredin ac mae'n cynnwys yr Oren Gwaed â'r cig coch a'r Oren Bogeiliol. Mae dros 50 o fathau o'r rhywogaeth hon a dyma'r goeden ffrwythau a gaiff ei thyfu'n fwyaf eang yn y byd.
  • Mae citrus aurantium, yn adnabyddus fel 'Oren Chwerw' ac fe'i defnyddir yn eang i wneud marmalêd.
  • Cafodd 'Orange County' yng Nghaliffornia ei henw o'r ffaith bod cynifer o ffermydd wedi mynd ati i dyfu orennau yno. Fodd bynnag, erbyn y lledaeniad trefol yng nghanol y 1990au, roedd y prif ardaloedd cynhyrchu yn UDA wedi symud oddi wrth Califfornia ac i Florida a Brasil.
  • Daw'r gair 'orange' o'r Sansgrit ar gyfer y ffrwyth a chafodd y lliw oren ei enwi ar ôl y ffrwyth.
  • Yn y 19eg ganrif, cafodd morwyr Prydain y ffugenw 'Limeys' oherwydd bod leimiau, citrus aurantiifolia, yn cael eu rhoi iddynt yn ddyddiol. Cafodd y ffrwythau sitrws hyn eu bwyta i'w hatal rhag cael clefyd, 'y llwg', a achosir gan ddiffyg fitamin C. Mewn gwirionedd mae lemonau yn cynnwys llawer mwy o'r fitamin hwn ond nid oeddent ar gael yn rhwydd i'r llynges Brydeinig a oedd yn teithio yn ôl ac ymlaen i India'r Gorllewin.
  • Cyflwynwyd y lemon, Citrus limon, i ardal y Canoldir tua'r un pryd â'r oren. Credir bod y math poblogaidd 'Meyer' yn groesiad rhwng y gwir lemon a'r oren cyffredin. O ran planhigion citrus, mae'n gymharol galed a gall wrthsefyll tymheredd o -5C am ychydig oriau heb lawer o niwed.
  • Mae pob rhywogaeth citrus yn gydffrwythlon a lle mae rhywogaethau gwahanol yn cael eu tyfu yn agos at ei gilydd, mae hadau a gymerir o ffrwythau yn debygol o gynhyrchu hybridau sy'n cyfuno nodweddion pob rhiant-blanhigyn.
  • Defnyddir yr olewau sydd yng nghroen y ffrwythau citrus yn eang wrth gynhyrchu persawr, meddyginiaethau a nwyddau glanhau.
  • Mae'r sitron, citrus medica, yn ffrwyth mawr, yn aml yn llawer mwy na 150mm o hyd a lled. Mae'n wahanol iawn i'r rhan fwyaf o'r mathau eraill y gellir eu bwyta gan fod ganddo fywyn gwyn hynod o drwchus o dan y croen lliw tenau, ac mae'n cynnwys canol sych cylchrannog lle ceir yr hadau. Fe'i defnyddiwyd at ddibenion meddygol ers yr oes a fu ac mae wedi ei dyfu am gyfnod hwy nag unrhyw rywogaeth arall. Mae ffurf o'r sitron a elwir yn 'Llaw Bwda' lle mae gan y ffrwyth siâp fel clwstwr mawr o fysedd. Ei enw gwyddonol yw citrus medica digitata.
  • Credir bod y Bergamot, citrus bergamia, yn hybrid naturiol rhwng yr oren chwerw a'r leim, ac mae'n tyfu yn India a Tsieina. Mae olew hanfodol gwerthfawr yn cael ei wasgu o'i groen ac fe'i defnyddiwyd fel sylfaen ar gyfer persawrau, yn enwedig 'Eau de Cologne' ers 1714. Fe'i defnyddir hefyd i roi'r blas nodedig i de 'Earl Grey'.
  • Pomelo (a elwir hefyd yn Pamplemousse) Citrus maxima. Fel yr awgryma'i enw gwyddonol, mae'r rhywogaeth hon yn dwyn ffrwyth mawr sydd â bywyn gwyn trwchus â darnau melys llawn sudd a hadau. Arferai hwn gael ei fwyta'n eang ond erbyn hyn mae'r grawnffrwyth hybrid wedi cymryd ei le.
  • Mae'r grawnffrwyth, sef Citrus x paradisi, yn fwyaf adnabyddus fel ffrwyth brecwast. Credir ei fod yn hybrid rhwng math o pomelo a'r oren cyffredin a ddarganfuwyd gyntaf yn India'r Gorllewin gan y Cymro Griffith Hughes tua 1750.
  • Mae'r Tanjerîn, y Mandarin, y Clementin a'r Satswma bach, hawdd i'w plicio, yn amrywiaethau o'r Citrus reticulate. Mae'n bosib mae dyma'r rhywogaeth fwyaf poblogaidd o'r holl ffrwythau Citrus bwytadwy a'r mwyaf caled ohonynt i gyd, a hynny wedi iddynt gael eu cofnodi'n gwrthsefyll -10C heb unrhyw niwed.
© Parc Gwledig Margam