Hepgor gwe-lywio

Y Tŷ Sitrws

Mae'r Tŷ Sitrws (a'r Tŷ Tyfu) yn rhai rhestredig gradd II fel 'tŷ gwydr mawr o ddyddiad cynnar sydd â chymeriad pensaernïol sylweddol.'

Adnewyddiad y Tŷ Sitrws
Roedd y Tŷ Sitrws 200 oed yn rhan o becyn grant gwerth £1.8 miliwn dan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru, a gynhelir gan y Cynulliad a'r Undeb Ewropeaidd. Gwariwyd yr arian ar nifer o brosiectau ac roedd gwaith adfer y Tŷ Sitrws yn un ohonynt. Adeiladwyd y Tŷ Sitrws ym Mharc Margam tua 1800 i ddisodli tai gwydr fu gynt ar yr ystad. O ganlyniad i'r grant mae'r tŷ wedi'i weddnewid i'w ddefnydd gwreiddiol, sef cadw planhigion sitrws.

Deall yr Adeilad
Cyfeiriwyd at yr adeilad yn wreiddiol fel y 'Wal Orennau' yn hytrach na'r Tŷ Sitrws. Mae cadarnhad o'r term i'w weld yn y cofnodion pan ofynnodd y Fonesig Mary Fox Strangways 'i goed yn y gerddi gael eu torri er mwyn caniatáu golau ar y Wal Orennau'. (Roedd y Fonesig Mary yn wraig i T.M. Talbot a adeiladodd yr Orendy).

 

Gwyddom o gofnodion yr ystad, fod y gwaith adeiladu oedd dan oruchwyliaeth William Gubbings wedi costio £223 9 swllt 8½ ceiniog. Mae'r cofnodion yn dangos bod yr ystafell wydr newydd wedi'i hadeiladu ar sylfeini hen adeilad. Bob blwyddyn ym mis Mai, byddai'r "goleuadau" yn cael eu tynnu o'r 'Wal Orennau' a'u hailosod ym mis Hydref. Maent hefyd yn nodi bod y mwyafrif o'r coed a oedd yn tyfu yno yn erbyn y delltwaith ar y wal gefn. Mae cofnodion o 1842 yn nodi bod 40 o goed o'r fath yn yr adeiledd.

 

Yr hyn sy'n sicr yw cyn i'r Orendy presennol gael ei adeiladu roedd o leiaf dri tŷ gwydr mawr yn cadw casgliad sitrws Margam, ac roedd y tai gwydr rhwng 100 a 150 troedfedd o hyd. Mae cofnodion eraill yn dangos bod planhigion sitrws a ffiwsias wedi'u cadw yn yr adeiledd hwn, ac mae delltwaith sy'n ymddangos yn gyfoes a gwelyau blodau wedi'u codi'n fewnol, yn awgrymu y gallai fod gan y Tŷ Sitrws ddefnyddiau eraill hefyd.

 

Mae'r Tŷ Sitrws, sy'n 44.5m o hyd, yn cynnwys adran ganolog wydrog (38.6m o hyd) rhwng pafiliynau wedi'u rendro mewn sment ar bob pen, a bob un â tho gwydrog. Mae'r prif do gwydr ar ddau oleddf a atgyfnerthir yn ganolog gan arcêd o golofnau haearn bwrw main. Mae'r pafiliynau a'r wal gefn wedi'u hadeiladu o gerrig llanw. I'r blaen mae plinth lefel isel mewn carreg rywiog wedi'i thrin. Yn 2007, gadawyd i'r tŷ gwydr ddadfeilio ac ystyriwyd ei fod yn rhy beryglus i'r cyhoedd gael mynediad iddo. Gyda chymorth grant y Cynllun Datblygu Gwledig, mae'r Tŷ Sitrws bellach wedi cael ei adfer i'w hen ogoniant ac mae heddiw yn ein croesawu i grwydro drwyddo os bydd y tywydd yn troi'n wlyb!

Pa mor arwyddocaol yw'r Tŷ Sitrws fel adeilad?
Mae'r Tŷ Sitrws (a'r Tŷ Tyfu) yn rhai rhestredig gradd II fel 'tŷ gwydr mawr o ddyddiad cynnar sydd â chymeriad pensaernïol sylweddol ac am werth grŵp gydag Orendy a adeiladau eraill ym Mharc Margam.'

 

Mae'r adeiladau yn sefyll yn y Parc Hanesyddol Cofrestredig a chyda'r Orendy maent yn gwneud cyfraniad enfawr i arwyddocâd pensaernïol, cymdeithasol, hanesyddol a diwylliannol y safle hwn sydd o bwys cenedlaethol. Mae ei bwysigrwydd, yn bensaernïol, yn ei gyfansoddiad a'i raddfa ynghyd â'i strwythur haearn a'r manylion pren ysgafn. Mae'r colofnau haearn main, y trawstiau tenau iawn a'r teils gwydr siâp sgolop yn dyst i bensaernïaeth gardd Fictoraidd. Heb gynnal a chadw cyson, mae'r adeiladau hyn yn dirywio'n gyflym iawn. Mae rhaniad ystadau mawr wedi arwain at golli'r mwyafrif o'r tai gwydr Fictoraidd yng Nghymru, ac mae hyn yn rhoi mwy o bwysigrwydd i'r rhai sydd yn dal i sefyll. 

Y Gwaith Adnewyddu:
Roedd y brîff dylunio ar gyfer yr adnewyddiad yn golygu bod y Tŷ Sitrws yn darparu mynediad llawn a diogel i'r cyhoedd a'r staff. Yr her i'r tîm dylunio oedd cyflawni'r lefel hon o fynediad tra'n cadw uniondeb a rhinweddau arwyddocaol yr adeilad rhestredig sef cyfansoddiad pensaernïol; graddfa; y ffrâm strwythurol haearn; y manylion pren ysgafn; y teils gwydr siâp sgolop.

 

Teils Gwydr Siâp Sgolop
Datblygwyd y teils gwydr siâp sgolop yn y 19eg ganrif er mwyn lleihau'r pydredd yn nhrawstiau tai gwydr trwy gyfeirio dŵr oddi wrth gafnau pwti. Er mai ffenestri gwydr crwn neu silindr oedd yno'n wreiddiol, mae'n ymddangos bod gweddill y teils yn y tŷ sitrws yn wydr plât 3mm, a osodwyd yn eu lle yn yr 20fed ganrif. Roedd gwaith ymchwil gan y tîm dylunio yn awgrymu mai gwydr gwydn wedi'i gynhesu oedd y dewis mwyaf priodol yn lle'r gwydr.

 

Trawstiau Pren Ysgafn
Dangosodd dadansoddiad strwythurol o'r darnau pren fod cryfder y trawstiau byrion isaf a'r prif drawslath wedi methu bodloni'r safonau cyfredol o ran y llwyth a roddir arnynt. Roedd y tîm dylunio'n argymell gosod trawstiau haenog o fewn y prif drawstiau a'r prif drawslath a gosod trawslath ysgafn ('T') wedi'i gwneud o ddur i ymestyn rhwng y prif drawstiau ac i haneru rhychwant y trawstiau byrion. Er ei fod yn gostus, bydd yr ymagwedd hon yn sicrhau bod maint y darnau pren yn parhau i fod yr un peth a'r rhai presennol. Byddai'r holl bren newydd, ffynidwydden, yn cael ei fewnforio.

 

Strwythurau Haearn Bwrw
Gan fod nifer o ddarnau o'r bracedau haearn bwrw wedi cracio, penderfynwyd cofnodi pob darn haearn bwrw, eu tynnu oddi ar y safle dros dro, eu siotlanhau a'u hatgyweirio yn ôl yr angen cyn eu hailosod.

 Gwresogi ac Awyru
Dros y gaeaf, gwresogir gyda phibau haearn bwrw mawr ar flaen yr adeilad ac o foeler nwy yn y 'storfa afalau' yn y cefn. Darperir awyru yn yr haf gan y trefniant presennol o agor ffenestri codi. Cafodd y system gyfan ei newid ac mae modur trydan yn ei bweru erbyn hyn. 

 

Gorffeniadau
Mae pob morter a rendrad a ddefnyddir yn yr adeilad yn rhai calch hydrolig.

 

Y Tŷ Tyfu
Mae'r Tŷ Tyfu ar ochr ogleddol y wal gynnal. Mae tystiolaeth yn parhau i awgrymu i'r tŷ hwn gael ei adeiladu ar yr un pryd a phan ailadeiladwyd y Tŷ Sitrws ar ddiwedd y 19eg ganrif. Gadawyd iddo ddadfeilio am gyfnod, ond mae bellach wedi'i adnewyddu gan ddefnyddio'r un egwyddorion a ddefnyddiwyd yn y Tŷ Sitrws. Mae'r holl ddarnau strwythurol haearn bwrw gwreiddiol yn parhau, ac mae hyn wedi caniatáu iddo gael ei ail-greu mor agos â phosib i'r gwreiddiol.

 

Cymryd cam yn ôl mewn amser ...
Mae'n hawdd dychmygu'r garddwyr a oedd yn gweithio yn y tai gwydr gwych hyn yn cael amser cymharol gyfforddus, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf yng Nghymru, gan weithio mewn awyrgylch cynnes. Fodd bynnag, roedd oes llawer o arddwyr o'r fath yn fyr. Cafodd y chwistrellau cemegol, a oedd yn cynnwys arsenig, y byddai garddwyr Fictoraidd yn eu defnyddio i ladd y pryfed dieisiau yn eu tai gwydr, effaith angheuol ar y garddwyr eu hunain yn y pen draw.

 

 

 

© Parc Gwledig Margam