Hepgor gwe-lywio

Ffotograffiaeth a Ffilmio Masnachol

Mae Parc Gwledig Margam yn cynnig y cefndir perffaith ar gyfer ffotograffiaeth a ffilmio masnachol.

Mae Parc Gwledig Margam yn cynnig y cefndir perffaith ar gyfer ffotograffiaeth a ffilmio masnachol.

Mae pensaernïaeth a golygfeydd trawiadol y parc yn cynnig lleoliad ysbrydoledig ar gyfer ffilmio, o ddramâu cyfnod i raglenni dogfen ffeithiol a ffilmiau mawr modern. Mae rhai ffilmiau yn gosod y castell fel prif nodwedd, mae eraill yn dod i ffilmio agweddau bach na fyddech yn eu hadnabod ar yr olwg gyntaf.

Mae Parc Gwledig Margam yn croesawu unrhyw un sydd â diddordeb mewn ffilmio ynddo a gall ddarparu rhai delweddau 360 gradd er mwyn rhoi gwell syniad o'n lleoliad os oes angen.

 

Tystlythyron -

'Mae Parc Margam yn un o'r lleoliadau hynny sydd â chymaint i'w gynnig. Mae'r castell, yr Orendy a'r tiroedd helaeth yn golygu bod y parc wedi cael ei ddefnyddio fel lleoliad mewn nifer o ffilmiau o rhaglenni teledu dros y blynyddoedd. Mae cael mynediad i leoliad mor unigryw sydd â chymaint i'w gynnig yn fendith i mi fel rheolwr lleoliad '.  Tom Guy.

 

Ffi am ddiwrnod o ffilmio £1,200.00

Ffi am gael defnyddio'r parc am ddiwrnod ar gyfer ffotograffiaeth £100.00

Ffi am ddiwrnod o ffotograffiaeth fasnachol £500.00

Am ymholiadau pellach, gwiriwch argaeledd neu i gadw lle am y dydd, anfonwch e-bost atom margampark@npt.gov.uk

© Parc Gwledig Margam