Hepgor gwe-lywio

Llwybr Dirgryniadau'r Coetir

Gall ymwelwyr â'r parc bellach fod mewn harmoni â natur gyda 'Llwybr Dirgryniadau'r Coetir'.

Gall ymwelwyr â'r parc bellach fod mewn harmoni â natur gyda 'Llwybr Dirgryniadau'r Coetir'. Cymerwch frigyn a churwch rythm!

Crëwyd y llwybr gyda chymorth plant ysgol lleol ac mae'n mynd heibio cyfres o offerynnau cerdd enfawr a wnaed o goed a dorrwyd yn y parc. Mae'r llwybr yn arwain o'r maes parcio i Ganolfan Ddarganfod Margam ac mae'n rhan o brosiect cyffrous Menter Addysg y Coed (FEI) o'r enw 'Llwybr Dirgryniadau'r Coetir'.

Gwyliodd plant o bump ysgol yng Nghastell-nedd Port Talbot goeden yn cael ei thorri ac yna aethant ati i weithio gyda'r saer coed gwyrdd lleol Scott Blytt Jordens o Dragonfly Creations i greu'r offerynnau cerdd y gallwch chi eu chwarae wrth i chi gerdded ar hyd y llwybr.

Gwnaed y prosiect yn bosibl ar ôl i Grŵp Clwstwr Menter Addysg y Coed Castell-nedd Port Talbot sicrhau cyllid gan Fenter Addysg y Coed a darparwyd arian cyfatebol gan yr awdurdod lleol, yr elusen addysg amgylcheddol, y Cyngor Astudiaethau Maes a Groundwork Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr.

Arweiniodd Amy Phillips, Swyddog Addysg Comisiwn Coedwigaeth Cymru ar gyfer Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot y plant trwy'r broses gyfan o drawsnewid coeden yn adran chwythbrennau newydd y parc. Dywedodd, "Drwy weld y goeden yn cael ei thorri a bod yn rhan o bob cam, roedd y plant yn gallu dysgu am fanteision niferus coed a choetiroedd a deall sut y gellir defnyddio pren lleol i gynhyrchu amrywiaeth o wrthrychau pob dydd. Mae'r prosiect hefyd yn rhoi sgiliau ymarferol iddynt wrth weithio gyda phren ac yn cynyddu eu sgiliau cymdeithasol a gobeithio y byddant yn ennyn ymdeimlad o falchder yn eu hamgylchedd lleol. "

Cynhaliodd y plant a oedd yn rhan o'r prosiect ddigwyddiad dathlu yr wythnos hon a hynny cyn agoriad cyhoeddus y llwybr er mwyn rhoi cynnig ar yr offerynnau a chanu caneuon wrth iddynt fynd tuag at y Ganolfan Ddarganfod.

© Parc Gwledig Margam