Hepgor gwe-lywio

Arhoswch gyda ni ym Mwthyn yr Irowg

"Mae Bwthyn yr Iorwg mewn lleoliad hanesyddol hardd. Golygfeydd godidog. Mynediad i Barc Margam, y Castell a'r Abaty. Gardd hyfryd. Gwelyau cyfforddus iawn, cegin llawn cyfarpar."

Beth am aros yn y parc ym Mwthyn yr Iorwg, sef ein bwthyn gwyliau ein hunain! Am ragor o fanylion ac i gadw lle, dilynwch y ddolen Bythynnod Gwyliau.

Mae'r bwthyn unigryw hwn ar ymyl y parc ac mae ganddo dair ystafell wely wedi'u hadnewyddu i safon uchel. Mae'r bwthyn gyferbyn ag Abaty Margam ac mae modd cael mynediad am ddim i'r parc trwy'r gât sydd ar glo yng ngardd y bwthyn, ac mae hwn ar gael i westeion hyd yn oed pan fo'r parc ar gau i'r cyhoedd.

Llety ar gyfer pump gyda thair ystafell wely (1 â gwely mawr iawn, 1 â gwely dwbl ac 1 â gwely sengl). Amwynderau: parcio ar gyfer dau gar. Lle i storio beiciau. Dillad gwely, tywelion, trydan, gwres canolog a Wi-Fi wedi'u cynnwys. Lleoliad: mae'r traeth chwe milltir i ffwrdd, siop a thafarn ddwy filltir i ffwrdd. Amser cyrraedd: 4.30pm - dydd Gwener yw'r diwrnod newid gwesteion.

© Parc Gwledig Margam