Hepgor gwe-lywio

Digwyddiadau Arswydus

Paranormal activity at Margam Castle

Digwyddiadau arswydus yn y castell

Ysbrydion Castell Margam

Margam Castle Staircase HallCredir mai un ysbryd sy'n ymddangos yn rheolaidd yn y castell yw Robert Scott, a fu'n gweithio yno fel ciper am flynyddoedd lawer. Credir i Scott gael ei lofruddio gan botsiwr ac mae ei ysbryd yn dal i grwydro'n gynddeiriog o gwmpas y tir heddiw.

Gwelwyd Robert Scott yn aml yn esgyn y grisiau gothig sy'n arwain at y castell, yn benderfynol. Mae ei bresenoldeb wedi dod i'r amlwg yn rheolaidd gydag ymchwilwyr seicig, ac mae pob un ohonynt wedi mynnu bod ei ysbryd yn llawn cynddaredd dros ei lofruddiaeth anghyfiawn.

Mae sŵn plant yn chwerthin yn aml i'w glywed drwy'r coridorau hir ac ystafelloedd dramatig yr ardaloedd teuluol. Cafwyd adroddiadau am blant yn symud i mewn ac allan o ddrysau mewn gwisgoedd o oes Victoria ac yn symud gwrthrychau yn ddireidus.

 

Gweithgarwch Paranornal

Mae cerrig wedi cael eu taflu at y rhai sy'n cynnal seansau ac sy'n ymdrechu i siarad ag ysbrydion.

Mae Castell Margam yn safle trawiadol a dramatig gyda nodweddion pensaernïol unigryw.


Ghost Hunters International yn ymweld â Chastell Margam

Hedfanodd Ghost Hunters International draw o Los Angeles, Califfornia, yn gynharach yn y flwyddyn i ffilmio pennod o'r sioe deledu boblogaidd ar gyfer sianel SyFy.

Fe'i darlledwyd i'r gynulleidfa Americanaidd ar 21 Gorffennaf am 9pm ac fe'i gwyliwyd gan dros filiwn o wylwyr, gan roi Parc Gwledig Margam ar fap y byd.

Bydd y sioe yn dod i sgriniau'r DU yn y misoedd sydd i ddod, nid yw'r union ddyddiad wedi'i gadarnhau eto.

 

© Parc Gwledig Margam