Hepgor gwe-lywio

Cyfeiriannu

Mae Parc Margam yn lle gwych i ddysgu sgiliau darllen mapiau.

Mae Parc Margam yn lle gwych i ddysgu sgiliau darllen mapiau. Ceir cyfres o 7 o gyrsiau cyfeiriannu yn y parc. Maent yn amrywio mewn cymhlethdod o rai gweddol hawdd i rai lefel uwch.

Beth am ddechrau gyda'r cyntaf a gweithio eich ffordd drwyddyn nhw?

Darperir gwybodaeth ychwanegol mewn pecyn cyfeiriannu sydd ar gael yn uniongyrchol o'r parc.

Ffurfiau eraill o gyfeiriannu ar gyfer cystadlu a hyfforddiant.

Mae'r saith cwrs sydd ar gael ym mhecyn cyfeiriannu'r parc o'r ffurf a elwir yn 'draws gwlad'. Mae'r cyrsiau'n gynyddol, o rai 'gweddol hawdd' ar gyfer dechreuwyr, i rai 'anodd' a gynlluniwyd ar gyfer pobl sydd â phrofiad. Gallant ddarparu sail ar gyfer cystadlu, neu gellir eu mwynhau fel her bersonol i ddod o hyd i'r mannau rheoli'n effeithlon heb boeni am yr elfen amser. Stopiwch i fwynhau'r golygfeydd pryd bynnag y dymunwch - ond peidiwch ag anghofio ble rydych chi ar y map!

Mae'r ffurfiau cyfeiriannu canlynol yn addas ar gyfer grwpiau sy'n chwilio am gystadleuaeth a hyfforddiant ym Mharc Margam. Bydd angen i chi lawrlwytho copïau o fap cyfeiriannu'r 'Mannau rheoli' a disgrifiadau'r mannau rheoli sy'n cyd-fynd â'r adran hon.

Dylai unrhyw weithgaredd ddechrau a gorffen yn yr un lle, ond gallwch ddewis y lleoliad yn unrhyw le ar y map i amrywio'r mannau rheoli y gellir ymweld â nhw. Rhaid i'r trefnydd sicrhau bod y dechrau/diwedd a ddewiswyd wedi'i farcio ar bob map sy'n cael ei ddefnyddio. Cofiwch po fwyaf yw'r rhif sy'n cael ei ddosbarthu i'r mannau rheoli ar y map yn uchel, yr anoddaf y bydd i dod o hyd iddo.

# MRh = Mae map y 'Mannau Rheoli' ar gael i chi ddewis mannau rheoli i ymweld â nhw, neu i'w ddefnyddio gyda chyrsiau awgrymedig. Mae rhai ardaloedd yn cynnig mapiau ar wahân ar gyfer pob cwrs.

AT = Anhawster technegol, h.y. 1 = hawdd (ar gyfer dechreuwyr ifanc);

2 = yn weddol hawdd (i ddechreuwyr yn gyffredinol);

3 = cymedrol (ar gyfer oedolion dibrofiad a'r rhai sy'n symud ymlaen o AT2);

4 = yn eithaf anodd (mae angen gafael dda ar AT3);

5 = anodd (mae profiad eang yn angenrheidiol)

Cydnabyddiaeth: Sefydlwyd y cyfleuster cyfeiriannu hwn mewn cydweithrediad â Chlwb Cyfeiriannu Bae Abertawe a ddarparodd y map, a ddarluniwyd ac arolygwyd gan Simon Beck. Cynlluniwyd y cyrsiau gan Peter Seward a luniodd hefyd y nodiadau ar dechnegau cyfeiriannu a chyfleoedd cyfeiriannu.

© Parc Gwledig Margam