Canolfan Ddarganfod Margam
Mae Canolfan Ddarganfod Margam yn cynnig addysg o safon uchel i bob grŵp oedran, dros gyfnod preswyl ac ar gyfer gwibdeithiau dydd. Mae'r ganolfan yn adeilad modern, ag ôl-troed carbon isel a ddyluniwyd gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru.
Cynhelir y ganolfan mewn partneriaeth â Chyngor Astudiaethau Maes a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Ystafell Ddosbarth Awyr Agored
Mae'r ganolfan yn defnyddio amrywiaeth eang o gynefinoedd yn y parc. Mae'n hawdd cael mynediad i'r safleoedd hyn yn ogystal â'r ganolfan, boed hynny ar y ffordd neu ar drên, sy'n gwneud y lleoliad yn un gwych ar gyfer cyrsiau byr. Ar gyfer cyrsiau hwy, mae gan yr ardal gyfagos ystod digyffelyb o amgylcheddau naturiol a dynol i'w harchwilio.
Sylwer, mae'r ganolfan ar gau i'r cyhoedd.
Manylion cyswllt:
Ffôn: 01639 895636
Ffacs: 01639 888659
E-bost: enquiries.mp@field-studies-council.org
Pennaeth y Ganolfan: Jane Richardson
Gwefan: hhttp://www.field-studies-council.org/centres/margamdiscoverycentre.aspx