Hepgor gwe-lywio

Sut i gyrraedd yma

Gwybodaeth Deithio:

Os ydych yn teithio mewn car mae Parc Gwledig Margam ychydig i fyny’r ffordd o’r M4; gadewch y draffordd wrth gyffordd 38 a dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown i Barc Gwledig Margam. Os ydych chi'n teithio gan ddefnyddio system llywio lloeren, defnyddiwch y côd post SA13 2TJ

Os ydych yn teithio ar drên mae cysylltiadau trên rheolaidd gan Great Western Railway rhwng gorsaf Paddington yn Llundain, Reading, Swindon a gorsaf Parkway Bryste (cysylltiadau rhwng gogledd-ddwyrain a chanolbarth Lloegr) a Phort Talbot.

Os ydych yn teithio ar fws mae bws X1 yn teithio o orsaf drenau Port Talbot; mae tacsis hefyd ar gael wrth yr orsaf.

Os ydych yn teithio ar goets mae’r orsaf coetsis agosaf yng ngorsaf fysus Port Talbot. Yna mae’n hawdd dal bws X1 neu X4 First Cymru sydd yn eich cludo i fynedfa prif ffordd y parc.

© Parc Gwledig Margam