Hepgor gwe-lywio

lletygarwch

Mae gan Barc Margam draddodiad hir o ddifyrru ysbrydoledig, ac mae'r croeso yn parhau heddiw.

Mae gan Barc Margam draddodiad hir o ddifyrru ysbrydoledig, ac mae'r croeso yn parhau hyd heddiw.

Mae'r parc yn enwog am greu digwyddiadau sydd wedi'u teilwra, gall ein pen-cogydd, ein tîm gwledda a'n tîm digwyddiadau profiadol gynnig pecyn i chi sy'n addas ar gyfer unrhyw achlysur. O ddigwyddiadau bach i rai annisgwyl, mae ein tîm yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr gan sicrhau y bydd eich derbyniad yn un na fyddwch chi yn ei anghofio ac sy'n unigryw i chi.

Priodasau yn yr Orendy

Mae'r Orendy hwn o'r 18fed ganrif yn un o'r sefydliadau mwyaf urddasol yn ne Cymru, sydd yng nghanol dros 850 erw o barcdir hardd, ond sydd ychydig funudau'n unig mewn car o gyffordd 38 traffordd yr M4.

 

Gavin a Danielle - "Diolch o galon i chi am eich holl help cyn ein diwrnod arbennig. O'r dechrau i'r diwedd, roedd eich gwaith yn broffesiynol ac roedd hi'n wych gweithio gyda chi wrth drefnu ein diwrnod mawr. Roedd yr Orendy'n lleoliad penigamp ac roedd yr holl staff ar y diwrnod yn anhygoel. Byddwn ni'n sicr yn argymell yr Orendy i ddarpar briodferched.”

Julie a James – "Diolch i chi am eich holl help wrth ddarparu priodas ein breuddwydion ar 12 Mai. O'r eiliad gyntaf ymholon ni am ddyddiadau a oedd ar gael dros flwyddyn a hanner yn ôl i'r diwrnod ei hun, roedd y staff bob amser yn hynod gymwynasgar, croesawgar ac yn barod i helpu. Byddwn ni'n edrych yn ôl ar y diwrnod gydag atgofion annwyl am lawer o flynyddoedd i ddod!”

Achlysuron Arbennig

Beth am gynnal eich achlysur arbennig yn y parc? Mae ein cynllunwyr digwyddiadau arbenigol wedi trefnu nifer o wahanol fathau o ddathliadau, o seremonïau gwobrwyo a gwleddau, i fedyddiadau a bar mitzvahs.

Digwyddiadau Corfforaethol

Y parc yw'r lle perffaith i ddod â'ch tîm, boed i annog meddwl yn rhydd, ysgogi syniadau neu ddathlu llwyddiant. Gallwn gynnig popeth y bydd ei angen arnoch - o logi ystafell yng Nghastell Margam, diwrnodau gweithgareddau adeiladu tîm yn y parc; lleoliad unigryw ar gyfer lansio cynnyrch, arddangosfeydd, cyfarfodydd a chynadleddau; derbyniadau siampên a bwyty o safon yn ein Horendy gwych.

"Lleoliad unigryw mewn amgylchedd godidog "

"Yn hawdd i'w gyrraedd, bum munud yn unig o gyffordd 38 yr M4".

margampark@npt.gov.uk

© Parc Gwledig Margam