Os ydych yn teithio o bell i ymweld â'r parc neu'n mynd â'ch ci am dro yno'n rheolaidd, rydym bob amser yn falch o'ch croesawu chi.
Ble allwn ni fynd â'n cŵn?
Bron pob man! Fodd bynnag, ni chaniateir cŵn yn y Prif Gastell, Ardaloedd Chwarae'r Plant, y Siop Anrhegion neu Bantri Charlotte (ac eithrio cŵn tywys).
Gallwch fynd â'ch ci am dro yn y mannau canlynol:
- Y Parcdir - Mae ein parcdir yn nefoedd i gŵn. Gyda 500 erw i harchwilio, dyma'r man gorau i'ch cŵn gael ymestyn eu coesau a rhedeg ar ôl pêl, cofiwch, fodd bynnag, fod ein ceirw yn crwydro yn y parcdir felly mae'n rhaid i gŵn fod dan reolaeth GLOS. Ar rai adegau o'r flwyddyn, byddwn yn gofyn i chi eu cadw ar dennyn - yn enwedig yn ystod tymor geni ceirw bach. Byddwn yn gosod arwyddion yn ystod y cyfnodau hyn i roi gwybod i chi.
- Gerddi Ffurfiol - Caniateir i chi grwydro trwy'r gerddi ffurfiol, gorffwys ar y meinciau a mwynhau'r haul, os yw eich ci ar dennyn.
- Pantri Charlotte - Mae gennym lawer o feinciau yn iard canolfan ymwelwyr y castell lle gallwch chi eistedd a mwynhau byrbryd yn agos at y caffi.
Rydym ni wrth ein bodd â chŵn ond nid yw ein holl ymwelwyr yn teimlo yr un peth! Felly helpwch ni i barhau i allu croesawu trwy ddilyn ein canllawiau:
- Codwch faw eich ci - Rydym yn darparu bagiau baw cŵn yn y caban wrth fynedfa'r parc os ydych chi'n anghofio dod â rhai gyda chi. Gallwch chi roi'r bagiau YN UNRHYW UN O FINIAU'R PARC. PEIDIWCH â gadael bagiau yn ein gwrychoedd ac o dan y llwyni.
- Cadwch eich cŵn gyda chi bob amser - ni ddylid gadael ci heb oruchwyliaeth pan fyddwch yn ymweld â'r parc.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn teithiau cerdded yn y parc, darganfod natur, siopa a bwyta.