Hepgor gwe-lywio

Yr Orendy

Mae'r Orendy hon o'r 18fed ganrif yn un o'r sefydliadau mwyaf urddasol yn ne Cymru, sydd yng nghanol dros 850 erw o barcdir hardd, ond sydd ychydig funudau'n unig mewn car o gyffordd 38 traffordd yr M4.

Adeiladwyd yr Orendy yn y parc i gadw casgliad gwych o goed orennau, lemonau a choed sitrws eraill a etifeddodd y teulu’r Talbot gan y teulu Mansel, eu cyndeidiau. Ni wyddom yn sicr am darddiad y coed hyn, ond mae chwedlau yn awgrymu eu bod yn rhodd i'r goron yn wreiddiol. Wrth iddynt gael eu cludo, llongddrylliwyd y llong ar yr arfordir ger Margam a hawliwyd y coed gan y teulu Mansel.

Nododd teithwyr a deithiodd drwy Gymru ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a oedd yn chwilio am harddwch darluniadwy ac a gyhoeddodd gyfrifon o'u teithiau, sawl fersiwn o'r chwedl. Mae'r Frenhines Elisabeth I, Brenin Siarl I, gwraig Siarl II Catherine o Braganza a Brenhines Mary William III i gyd yn ymddangos yn amrywiadau o'r stori.

Erbyn canol y ddeunawfed ganrif, roedd y casgliad sitrws yn cynnwys tua cant o goed ac fe'i cadwyd mewn sawl tŷ gwydr yn y parc. Cynllun beiddgar Thomas Mansel Talbot oedd adeiladu'r Orendy presennol, 327 troedfedd o hyd, i gadw’r casgliad cyfan.

Ym Mhrydain mae angen amddiffyn coed orennau rhag tywydd garw’r gaeaf, ond yn ystod misoedd yr haf gallant fod y tu allan ac fe'u defnyddiwyd i addurno gerddi ffurfiol y cyfnod. Fel adeilad mae'r Orendy yn hynod o ymarferol; mae’n hir ac yn gul gyda chyfres o 27 o ffenestri tal i adael golau'r gaeaf i mewn. Ar y wal ddu blaen roedd lleoedd tân, ac roedd awyr poeth yn mynd drwy ei ffliwiau. Yn ei ganol yr oedd y drws uchel y gellid olwyno’r coed a oedd wedi tyfu’n llawn drwyddo ac i mewn i'r ardd.

Gallai adeilad o'r hyd hwn ymddangos yn undonog, ond cafodd hyn ei osgoi trwy driniaeth greadigol o'r ffasâd. Mae gwrthgyferbyniad y garreg sydd wedi’i chloddio’n ddwfn â’r garreg nadd lyfn, yn dal y golau a’r cysgod yn llinellau cyfnewidiol a llorweddol y plinth â’i bwyslais cryf. Mae'r casgliad o gerrig garw â phatrwm nadreddog, uchder cyfatebol meini clo, ffrisiau'r triglyffau, a'r rhes o yrnau cerfluniedig ar y nenlinell yn rhoi ymdeimlad o undod a chytgord. Ar bob pen i'r adeilad mae pafiliynau o gerrig llyfn wedi'u haddurno â sgrolwaith wedi'i gerfio'n gain a'i oleuo gan ffenestri Fenisaidd.

Naddwyd y garreg y cafodd yr Orendy ei adeiladu ohoni yn lleol, yn chwarel Thomas Mansel Talbot yn y Pîl. Gweithiodd y dynion a oedd yn llyfnu'r garreg dan y pen-saer maen, William Gubbings, un o'r crefftwyr a fu'n gyflogedig gynt ar y fila ym Mhen-rhys dan bensaer Talbot, Antony Keck.

Mae cyfrifon manwl a gadwyd gan Hopkin Llewellyn, stiward yr ystad, yn adrodd stori adeiladu'r Orendy o 1786 i 1790 ac yn cofnodi sut casglwyd y deunyddiau. Daeth cerrig, tywod a phren o diroedd Talbot ei hun, a brics o odynau’r gwaith copr. Daeth coed trwm, gwydr a llechi dros y môr ac fe'u dadlwythwyd ym mhorthladdoedd bach y Drenewydd, Tai-bach a Chastell-nedd.

Unwaith yr oedd to'r Orendy yn ei le, dechreuodd y gwaith ar blastro'r tu mewn. Addurnwyd y pafiliwn gorllewinol yn helaeth gyda bwâu o waith plastro, gwyddfid a ffrisiau o lampau a griffoniaid hynafol. Cynlluniwyd yr ystafell hon fel llyfrgell ac astudfa. Roedd triniaeth y pafiliwn dwyreiniol yn fwy cynnil a defnyddiwyd yr ystafell i arddangos y gwaith marmor, y cerfluniau a'r penddelwau hynafol yr oedd Thomas Mansel Talbot wedi eu prynu yn yr Eidal, casgliad a arhosodd ym Margam nes iddo fynd ar chwâl trwy arwerthiant ym 1941.

Pan brynwyd yr ystad gan Gyngor Sir Morgannwg ym 1973, roedd yr Orendy wedi adfeilio. Pedair blynedd yn ddiweddarach roedd atgyweiriad yr adeilad hardd hwn wedi'i gwblhau ac fe'i hagorwyd gan y Frenhines yn ei Blwyddyn Jiwbilî Arian.

Heddiw, gyda'i leoliad gwych, adfeilion mynachaidd a phlasty mewn arddull gothig, mae’r lleoliad godidog a braf hwn yn cynnig yr amgylchedd a’r steil i gyfoethogi unrhyw ddigwyddiad. Gall yr Orendy ddarparu ar gyfer pob math o ddigwyddiadau, gan gynnwys priodasau, cynadleddau, cyngherddau a phartïon pen-blwydd. Mae'n enwog am greu digwyddiadau wedi'u teilwra a gall ein pen-cogydd a'n tîm gwledda profiadol gynnig pecyn i chi sy'n addas ar gyfer unrhyw achlysur. O ddigwyddiadau bach i rai annisgwyl, mae ein tîm yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr gan sicrhau y bydd eich derbyniad yn un na fyddwch chi yn ei anghofio ac sy'n unigryw i chi. Mae'r Orendy wedi'i drwyddedu'n llawn ar gyfer gwirodydd, cwrw a gwinoedd ac ar gyfer gweinyddu priodasau a phartneriaethau sifil ym mhresenoldeb yr Uwch-gofrestrydd.

www.margamorangery.com  orangery@npt.gov.uk (01639) 883553 

© Parc Gwledig Margam