Hepgor gwe-lywio

Dyddiadur Ceidwad Cefn Gwlad Mis Tachwedd

Dyddiadur Ceidwad Cefn Gwlad - Mis Tachwedd

Mae’r coedydd a’r glaswelltiroedd yn llawn madarch, bwyd y boda a ffyngau eraill o bob siâp a maint.

Spore PrintNid oes modd i chi wneud casgliad parhaol o ffyngau, ond os yw’r capan sborau fel ymbarél, gallwch wneud print o’r sborau. Ar lawer o fadarch fel hyn, gellir gweld sborau bychan dan y capan ar y tagellau. Os yw’r tagellau’n wyn mae’n well defnyddio papur tywyll.

Tynnwch fôn y fadarchen gyda chyllell a gosodwch y capan ar ddarn o bapur dros nos. Y diwrnod wedyn, codwch y capan oddi ar y papur yn ofalus ac oddi tano bydd print o’r sborau. Gallwch sefydlogi hwn gyda chwistrell sefydlogi artistiaid.

Mae’r sborau mor fychan fel nad oes modd gweld pob un ar ei ben ei hun ond drwy ficrosgop. Fel arall, byddwch yn gweld powdr mân yn unig. Credir bod modd i ffyngau bachog sy’n tyfu ar goed gynhyrchu cannoedd o filiynau o sborau bob awr a bod hyd yn oed madarchen gae o faint canolig yn cynhyrchu dros 1,500,000,000 o sborau mewn ychydig o ddiwrnodau.

Amania MuscariaY ffwng sy’n fwyaf cyfarwydd i ni y mae ei lun yn cael ei dynnu a’i ddarlunio’n amlaf, yw Amanita’r pryfed (Amanita muscaria). Mae’n gyffredin iawn fe’i gysylltir â choed bedw, a deuir o hyd iddo ar rostiroedd ac mewn coetir cymysg. Gellir eu gweld ar ymyl y Pwll Newydd y mis hwn.

Mae’r Capan Coch wedi’i orchuddio â brychni gwyn amlwg. Mae ganddo dagellau gwyn ac mae’r bôn yn wyn gyda modrwy. Mae’r ffwng hwn yn wenwynig iawn.

Mae cyfoeth o fythau a chwedlau yn perthyn iddo. Mae awgrymiadau amrywiol o ran ffynhonnell enw’r ffwng hwn.

Mae’r dehongliad mwyaf syml wedi’i gysylltu â’r arfer Ewropeaidd ers yr oesoedd canol, a chyn hynny o bosib, o’i ddefnyddio i farweiddio clêr, drwy roi darnau o’r capan mewn llaeth neu ddŵr siwgr, neu drwy ysgeintio siwgr ar y capan. Gosodwyd y maglau hyn ar siliau ffenestri.

Mae dehongliad pellach, mwy cymhleth o’r enw hefyd. Mae disgrifiadau o effaith bwyta’r ffwng yn amrywio o’r honiad ei fod yn “achosi cyflwr llonydd a mwyn, yn debyg i effaith opiwm, yn y sawl sy’n ei fwyta”, i farn hollol groes. Dywedwyd bod y Llychlynwyr yn ei ddefnyddio i fynd yn “berserk” (mae’r gair yn tarddu o’r crys croen arth a wisgwyd gan y rhyfelwyr). Tybiodd un ysgrifennwr, Wasson, fod tarddiad y gair yn perthyn felly i effaith dryslyd tebyg clêr amrywiol, fel Pryf Gweryd, neu Gleren y Meirch (Gadfly), ar wartheg, gan eu hachosi i grwydro o gwmpas yn ddwl (“gad about”). Mae’n rhestru llawer o ymadroddion o nifer o ieithoedd sy’n cysylltu ymddygiad meddwol â chlêr, ynghyd â chysylltiad mwy sinistr o lawer â sataniaeth. Gelwir Satan yn “Dduw’r Cylion” ac mae’r enw “Beelzebub” yn tarddu o’r Hebraeg “Ba’al Zevuv”, sy’n golygu’n llythrennol “Duw’r Cylion”.

Un effaith nodweddiadol o wenwyn Amanita’r Pryfed yw ystumio maint, yn arbennig, mae popeth yn ymddangos llawer yn fwy neu’n llai na fel arfer. Un ddelwedd barhaol o “Alice’s Adventures in Wonderland” yw’r lindysyn yn eistedd ar fwyd y bodayn ysmygu o hwca, ac yn edrych i lawr ar Alice fechan, sydd yr un maint â’r bwyd y boda. Mae’r Lindysyn yn dweud: “ Bydd un ochr yn achosi i chi dyfu’n dalach a bydd yr ochr arall yn achosi i chi fynd yn fyrrach”. “Un ochr i beth? Ochr arall i beth?” meddyliodd Alice yn dawel. “I’r fadarchen” meddai’r Lindysyn fel petai hi wedi’i ofyn yn uchel.

Roedd y Koryak yn bobl siamanaidd (roedd eu crefydd yn caniatáu i offeiriaid neu ddynion hysbys gyfryngu â’r duwiau neu’r ysbrydion) a oedd yn heidio ceirw Llychlyn. Byddai Koryak yn llyncu capan o Amanita muscaria fel cyfrwng dewiniaeth, er mwyn cyfeirio ei ysbryd. Roedd ceirw’r Llychlyn a heidiwyd gan y Koryak yn hoff iawn o Amanita’r Pryfed hefyd a dywedwyd y byddent yn teithio am filltiroedd i chwilio am gnwd y byddent wedyn yn ei fwyta cyn cwympo mewn “perlewyg”.

Roedd lliw coch capan Amanita’r Pryfed gyda’i addurniad gwyn, effaith hedegog ei wenwyniad, a chysylltiadau â cheirw Llychlyn i gyd yn cyfrannu at ddatblygiad myth Siôn Corn gan Athro Americanaidd yn rhan gyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Trosglwyddwyd y nodweddion a ddyfynnwyd i ffigur llawen Siôn Corn gyda’i got goch gyda botymau ac addurniadau gwyn, ei sled hedegog a dynnir gan geirw’r Llychlyn sydd, fel y siaman, yn dod â rhoddion o’r duwiau. Mae ei ddyfodiad drwy’r simne’n tarddu o nodwedd yr anheddau gaeaf a adeiladwyd gan dylwythau Siberia. Roedd y rhain yn gloddiadau yn y ddaear y gellid mynd i mewn iddynt dim ond drwy dwll yn y to a oedd hefyd yn dwll mwg. Hon oedd y fynedfa symbolaidd ar gyfer ysbryd y siaman a oedd yn “hedfan”.

Nodyn pwysig

Mae Amanita muscaria, Amanita’r Pryfed, yn fadarchen wenwynig y mae ei heffeithiau yn anodd iawn eu rhagfynegi. Mae dosau mawr ohoni’n gallu bod yn angheuol ac yn bendant, ni ddylech ei chymryd fel arbrawf.

© Parc Gwledig Margam