Hepgor gwe-lywio

Dyddiadur Ceidwad Cefn Gwlad Mis Mawrth

Dyddiadur Ceidwad Cefn Gwlad - Mis Mawrth

HerronsEr bod brath terfynol i'r gaeaf yn aml, rydym bellach yn gadael misoedd mwyaf diflas y flwyddyn. Mae blodau'r gwanwyn yn agor ac mae ieir bach yr haf yn ymddangos o'u gaeafgwsg. Gwrandewch am y teloriaid cyntaf, bwrlwm cyfoethog y telor penddu neu gân ddigamsyniol y dryw felen. Mae'n ddechrau blwyddyn newydd y naturiaethwr o'r diwedd.

Mae'r Crehyrod sy'n nythu'n gynnar yn deor eu nythaid cyntaf.

Mae gwiwerod yn dechrau'r flwyddyn yn gynnar, gan baru ym mis Ionawr a Chwefror. Erbyn hyn mae'r gwiwerod benyw yn barod i roi genedigaeth. Maent yn gwneud nythod meithrin arbennig, naill ai drwy adnewyddu'r un arferol neu'n adeiladu un o'r newydd. Mae nythod gwiwerod yn hawdd i'w gweld yr adeg hon o'r flwyddyn am fod y coed yn dal yn noeth. Ni fydd mam sy'n meithrin yn teithio'n bell iawn o gartref yn ystod yr wythnosau cyntaf ar ôl rhoi genedigaeth. O'u mannau ffafriol yn uchel i fyny'r coed gall gwiwerod weld symudiadau o bellter sylweddol. Y ffordd orau i'w gwylio yw eistedd yn dawel ar waelod coeden ger nyth gwiwer ac aros i bethau ddigwydd.

Mawrth yw mis y Ddraenen Ddu, Prunus spinosa, gyda'i blodau gwyn.Toad Mae'r llwyni noeth yn llenwi'n sydyn â thoreth o flodau gwyn.

Dyma'r amser brig i lyffantod silio, ychydig yn hwyrach na brogaod.

Mae'r cacwn cyntaf ac yna'r pryfed hofran yn dechrau hedfan.

Gydag ychydig o aer cynnes a thermalau gweddol bydd y gwalch glas a'r boncath yn fwy amlwg yn ystod y mis hwn. Ar ddiwrnodau braf gallwch eu gweld yn hedfan yn uchel ac yn syth i fyny ac yna'n disgyn yn ôl dro ar ôl tro.

Ar ôl cyfnod o dywydd braf a chynnes bydd gwiberod (neidr mwyaf cyffredin Prydain) yn ymddangos o'u gaeafgwsg. Ceisiwch eu gweld yn bolaheulo ar lethrau sy'n wynebu i'r de lle mae digon o dyllau cuddio gerllaw. Cofiwch fod gwiberod wedi'u diogelu dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad. Edrychwch ond peidiwch â chyffwrdd!

Y Rhosyn cyntaf

Mae'r friallen yn cael ei henw o'i hymddangosiad cynnar - y 'prima rosa' neu'r rhosyn cyntaf. Mae'n rhaid bod brialluPrimrose ymhlith yr arwyddion mwyaf cyfarwydd o'r gwanwyn, ond mae mwy i'w blodau melyn golau nag sy'n eich taro yn gyntaf. O ran planhigyn, prif ddiben blodeuo yw lledaenu ei enynnau trwy ronynnau paill gwryw i rannau benywaidd planhigyn arall o'r un rhywogaeth. Ond pan fydd pob planhigyn yn blodeuo fwy nag unwaith mae perygl uchel o hunanbeillio. Mae briallu yn goresgyn hyn trwy drefniant y rhannau gwrywaidd a benywaidd. Edrychwch yn ofalus ar y blodau o sawl planhigyn a byddwch yn gweld 2 fath gwahanol, 'pinllygadog' a 'brigerlygadog'. Mae'r blodau lluosog mewn un planhigyn i gyd yr un peth. Mae hyn yn sicrhau na fydd pryfyn yn gallu hunanbeillio'r blodau, ond, pan fydd yn cyrraedd planhigyn o fath gwahanol bydd unrhyw baill ar ei gorff mewn cyfliniad perffaith ar gyfer ffrwythloni.

Bydd ceirw cochion a hyddod brith yn bwrw eu cyrn.

Peidiwch ag aflonyddu ar yr adar cynnar!!

Gall cyfnod oer yn ystod y mis hwn ddal nifer o'n hadar trigiannol ar ddechrau eu hymdrechion i fridio. Gallech feddwl y byddai hwn yn rheswm da am beidio â cheisio bod y cyntaf i'r felin, ond nid yw hyn yn wir. Mae'r wy yn becyn effeithlon iawn. Os nad yw wedi cael ei ddeor eto fe all barhau yn fyw hyd yn oed pan fydd wedi oeri'n ddifrifol. Pan fydd deor yn dechrau dylai'r aderyn benywaidd, y mae ganddi gronfeydd ardderchog o fraster ar ddechrau'r cyfnod bridio, fod mewn sefyllfa dda i lwyddo fel arfer.

Cadwch lygad am yr ymfudwyr

Yn aml mae'r cyntaf o'r pryfed ymfudol yn ymddangos ym mis Mawrth. Mae mentyll cochion a ieir bach tramor yn adnabyddus, ond mae eraill yn dod hefyd, sy'n cael eu chwythu gan y gwyntoedd cryf a ffres o ganol a de Ewrop.

Adnabod yr helyg

SallowTua diwedd y mis bydd digonedd o gywion gwyddau yr helyg o gwmpas. Mae'r enw yma'n berthnasol i helygen y geifr, Salix caprea. Mae ganddo gywion gwyddau gwrywaidd sy'n arbennig o fawr a lliwgar sy'n datblygu toreth o antherau melyn llachar. Mae'r helygen lwyd, Salix cinerea, yn dueddol o gael cywion gwyddau culach a mwy silindrog. Nid yw'n hawdd adnabod y gwahanol rywogaethau. Os yw'r sbesimen yn llwyn tal neu'n goeden fach ar ymyl coetir neu mewn hen lwyn gyda chywion gwyddau mawr a lliwgar mae'n debygol mai helygen y geifr ydyw. Piliwch y rhisgl; os oes gwrymau amlwg, hydredol ar wyneb y pren oddi tano mae'n fwy tebygol mai'r helygen lwyd ydyw. Dewch yn ôl yn hwyrach yn y flwyddyn pan fydd y dail allan oherwydd fe fydd hyn yn eich helpu i'w hadnabod yn well.

© Parc Gwledig Margam