Hepgor gwe-lywio

Dyddiadur Ceidwad Cefn Gwlad Mis Chwefror

Dyddiadur Ceidwad Cefn Gwlad - Mis Chwefror

Pan fydd yr haul yn tywynnu gallech dybio bod y gwanwyn wedi cyrraedd, ond mae'n gallu cilio yr un mor gyflym. Yn ystod y ddau ddegawd diwethaf mae tywydd gwaethaf y gaeaf wedi dod yn ystod mis Chwefror. Mae'n werth gwneud y mwyaf o gamau ansicr Chwefror, wrth i'r gwanwyn nesáu'n raddol, gyda blodau sy'n blodeuo'n gynnar ac adar sy'n nythu'n gynnar yn arwain y ffordd.

Beth sydd o gwmpas ym mis Chwefror?

  • Frogs and ToadsMae brogaod yn dychwelyd i'r pyllau i silio. Maent ar eu mwyaf gweithgar yn ystod y mis hwn.
  • Mae llyffantod duon, sy'n fwy llafar, yn dechrau bridio ychydig yn hwyrach, gan ddechrau ganol y mis fel arfer. Gallwch eu gweld drwy oleuo tortsh ar hyd ymyl pwll gyda'r nos.
  • Mae ieir bach melyn yn hedfan ar ddiwrnodau cynnes.
  • Mae cnocellau brith mwyaf a lleiaf yn drymio.
  • Mae cynffonnau wyn bach a choed gwern yn colli paill y mis hwn. Mae blodau benywaidd bychain coed gwern ar bennau pellaf y canghennau. Erbyn y gaeaf byddant yn gonau pren bach sy'n rhyddhau hadau.
  • Mae Cigfrain a Chrehyrod ymhlith yr adar sy'n nythu gynharaf. Gallwch weld y ddau ym Mharc Margam.

Mae'r mis hwn bob amser yn dda o ran eira: mae'r haenen deneuaf hyd yn oed yn eich galluogi i weld arwyddion o fywyd gwyllt na fyddech yn sylwi arnynt fel arall. Ewch allan yn gynnar cyn i'r haul doddi'r olion a dilynwch unrhyw lwybr y dewch ar ei draws. Yn ogystal â llwybrau'r anifeiliaid, dylech fod yn gallu gweld arwyddion o fwydo, baw a chliwiau eraill o ran beth maen nhw wedi bod yn ei wneud!

Garden BirdsMae tywydd gwael yr adeg hon o'r flwyddyn yn angheuol i adar. Mae'n bwrw'r boblogaeth adar yn galed am fod cronfeydd bwyd eisoes wedi lleihau dros y misoedd blaenorol. DipperMae'r adar gardd arferol mewn gwell sefyllfa fel arfer am eu bod eisoes yn cymryd bwyd o fwydwyr. Os bydd y tywydd yn oeri, helpwch y drywod, llwydiaid y berth a'r tinsiglod brith drwy roi caws caled wedi'i gratio allan ar eu cyfer, ond dim gormod! Mae mymryn bach yn ddigon i'w hachub.

Bydd trochwyr yn amddiffyn eu tiriogaethau bridio ar hyd ein nentydd y mis hwn. Maent yn dueddol o eistedd ar ymyl y nentydd ar hoff garreg. Pan fydd un ohonynt wedi sefydlu tiriogaeth ni fydd yn crwydro ar diriogaeth ei gymydog. Mae poblogaeth dda o drochwyr yn arwydd o afon iach.

Y Blodyn Llefrith Cardamine pratensis yw'r enw ar un o flodau prydferthaf y gwanwyn. Mae'n cynhyrchu ei dyfiant cyntaf o ddail newydd nawr. Mae'r planhigyn yn aelod o deulu'r bresych ac mae'n blanhigyn bwyd pwysig ar gyfer lindys glöynnod blaen oren.

Dylai ambell ddiwrnod mwyn, tebyg i'r gwanwyn ddenu ychydig o bryfed cynnar o'u cuddfannau. Chwiliwch am ieir bach melyn, ieir bach amryliw a ieir bach llygadog yn gorffwys pan fydd yr haul yn tywynnu.

© Parc Gwledig Margam