Hepgor gwe-lywio

Dyddiadur Ceidwad Cefn Gwlad Mis Rhagfyr

Dyddiadur Ceidwad Cefn Gwlad - Mis Rhagfyr

Mae mis Rhagfyr yn gallu bod yn fis gwlyb ond beth am wisgo'ch welintons, a pha donig well sydd ar gyfer y Nadolig na mynd am dro yn y parc ym mis Rhagfyr. Mae heidiau o linosod yn bwydo, llwydrew yn cuddio yng nghysgodion y coetir a lliwiau gwelw prynhawn mis Rhagfyr fel cyferbyniad llonydd i dinsel a phapur lapio. A pheidiwch ag anghofio, ar ôl y cyri twrci olaf, bydd digwyddiad pwysig wedi llithro heibio - y diwrnod byrraf. Cyn hir, bydd diwrnodau hirach yn sbarduno tyfiant newydd.

Beth sy'n digwydd ym mis Rhagfyr?

  • Orange-Peel FungusMae gan adar lai o oriau golau dydd i fwydMae llwynogod yn swnllyd wrth i'w tymor bridio ddechrau
  • Mae ysgyfarnogod brown yn haws eu gweld yn y glaswellt byr
  • Mae mamoliaid ac adar bach yn chwlio am gynhesrwydd mewn tai, tai mâs a siediau
  • Mae'r ffwng croen oren llachar i'w weld ar ganghennau marw
  •  y coed
  • Mae'r ceiliog robin gwrywaidd yn canu i farcio tiriogaeth

A FoxMae mamoliaid yn cael eu hamddiffyn rhag yr oerni gan eu blew gaeaf trwchus; mae hynny'n edrych yn wahanol i'r hyn sydd ganddynt yn yr haf. Mae llwynogod yn edrych yn arbennig o drawiadol, mae eu blew trwchus yn peri iddynt ymddangos yn llawer mwy tew nag y maen nhw mewn gwirionedd. Mae'r hyddod brith yn ymddangos yn llawer mwy llwydaidd - gyda lliw sy'n fwy llwyd-frown na chastan; a'u smotiau'n llawer llai amlwg.

A GoldfinchSylwch am y nico yn cyffwrdd â phen ffrwyth cribau'r pannwr meirw. Gyda phigau hirach a chulach na llinosod eraill, mae'r nicoyn gallu cael gafael ar yr had. Mae ardal o gribau'r pannwr yn gallu bod yn adnodd bwydo pwysig ar gyfer haid dwy'r gaeaf. Mae digonedd o hadau ar hyd y llwybr fferm yn annog llinosod i adael eu tiriogaeth i ffurfio heidiau cymysg. Fel arfer mae'r rhain yn cynnwys rhyw gannoedd o adar ond os yw'r amodau'n gwaethygu, mae'r heidiau hyn yn ymgasglu gan ffurfio heidiau enfawr a fydd yn symud dros nifer o feysydd bwydo da. Bydd y digonedd o gnau ffawydd eleni yn bodloni'r jibincod yn ogystal ag ambell binc y mynydd. Weithiau mae breision yn bwydo gyda'i gilydd mewn grwpiau mawr, ond fel arfer maen nhw'n ymuno â heidiau o linosod. Oherwydd bod cynifer o lygaid yn gwylio rhag perygl, mae bwydo mewn haid yn fwy diogel na chwilota ar wahân.

Mae niferoedd adar y to yn lleihau 25 y cant mewn blwyddyn... Mae dirywiad syfrdanol adar y to yn Llundain yn dal i ddigwydd, mae ffigurau newydd yn datgelu'r gwir stori. Dilynwyd y lleihad o 59 y cant mewn niferoedd rhwng 1994 a 2000 gan leihad o 25 y cant, gyda llawer o bobl Lundain yn gweld adar y to yn diflannu o'u gerddi rhwng 2000 a 2001 yn ôl yr Ymddiriedolaeth Adareg Brydeinig. Mae'r ffigurau newydd, a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn yr Ymddiriedolaeth, yn dod o'i harolwg adar bridio 2001, sy'n cynnwys rhannau mawr o Brydain gan gynnwys, y llynedd, 54 km sgw (21 m sgw) o Lundain. Mae hynny'n golygu ei bod yn bwysicach nag erioed i roi porthwyr adar allan yn enwedig yn ystod y cyfnodau oer.

Ailgylchu Coed Nadolig Ailgylchwch eich coed Nadolig eleni, os gwelwch yn dda. Mae un cartref Prydeinig allan o bedwar yn prynu coeden Nadolig go iawn (sbriwsen Norwy, sbriwsen Sitca neu binwydden yr Alban fel arfer), cyfanswm o fwy na phum miliwn o goed. O'r coed hyn dim ond canran bychan sy'n cael eu hailgylchu. Pa ffordd well o ddechrau'r flwyddyn newydd nag ailgylchu eich coeden fel ei bod yn cael ei malu a'i defnyddio fel taenfa neu haen ar gyfer llwybrau Am ragor o wybodaeth am gynlluniau ailgylchu lleol.

© Parc Gwledig Margam