Hepgor gwe-lywio

Dyddiadur Ceidwad Cefn Gwlad Mis Medi

Chaffinch feasting on rowan berriesDyddiadur Ceidwad Cefn Gwlad - Mis Medi

Dyddiadur Ceidwaid Cefn Gwlad Medi Ceir teimlad aflonydd i fis Medi. Synau'r haf yn araf droi yn synau'r hydref. Gall fod yn fis gwerthfawr ar gyfer gwylio bywyd gwyllt gyda llawer yn digwydd cyn i dywyllwch y gaeaf ddod.

Daw'r pryfed olaf i'r golwg yn awr gan aeddfedu. 'Mae'r dolydd, y porfeydd a'r darnau o brysgoed yn crafu i'w rhythm eu hunain wrth i sioncod y gwair a chriciaid ganu un gân arall cyn i'r rhew eu lladd. 'Mae'r gwyfynod a'r glöynnod byw ymfudol yn canolbwyntio'u hymdrechion ar neithdar blodau sawrus.

Y mae rhai o'n coed ysgaw yn dechrau troi'n felyn gan ddangos fod yr hydref ar ei ffordd. Tro'r marchgastanau a'r ffawydd fydd nesaf. Wrth gwrs, yr hydref yw'r amser am ffrwythau. Y mae ein criafol yn llawn ffrwythau coch llachar ac y mae'r mwyar duon yn dechrau aeddfedu. Y mae'n gyfnod hanfodol ar gyfer llawer o'n rhywogaethau adar a mamaliaid. Maent yn brysur yn pesgi eu hunain ar gyfer gaeafgwsg neu fudo. Gall gwledd y cloddiau edrych fel perthynas un ochr, ond y mae'n anhygoel pa mor bell y mae anifeiliaid yn gwasgaru hadau ffrwythau. Cofiwch mor aml y caiff diwrnod golchi dillad gwyn ei ddifetha gan ymweliadau mwyalchod, drudwennod a bronfreithod.

Y mae gwylio mamaliaid ychydig yn haws ar yr adeg hon o'r flwyddyn gan fod y niferoedd ar eu huchaf. Gellir gwylio llygoden gota yn chwibanu i fyny ac i lawr mieri yn chwilio am y mwyar duon gorau o frig y sbrigyn yng nghanol dydd. Y mae cadnoid a moch daear yn gyflym i wneud y mwyaf o'r cynhaeaf mwyar duon; 'mae baw y moch daear wedi'u staenio'n biws yr adeg hon o'r flwyddyn!

Fly Agaric fungusGan fod ein tymor paru drosodd, 'mae llawer o'r adar sy'n ymweld â ni dros yr haf yn meddwl am fudo mawr yr hydref. Y mae'r gwenoliaid duon wedi mynd. Dechreua'r gwenoliaid a gwenoliaid y bondo ffurfio heidiau mawr ac y mae'r perthi'n atseinio gwacter. Yn fuan ni chawn ymweliad arall gan delorion yr helyg, llwydfronnau na siff-siaffod. Fodd bynnag, bydd ein hymwelwyr gaeaf yn cymryd eu lle cyn hir.

Cadwch lygad yn agored am wahanol fathau o ffyngoedd, a fydd yn ymddangos yn y parc cyn gynted ag y cawn ein glaw sylweddol cyntaf. Un da i'w weld sy'n gweddu i'w enw'n dda, yw'r ffwng tafod bustach. Yn aml i'w weld ar goed derw neu gastanwydd, nid yw ond yn edrych y lliw iawn, ond y mae hefyd yn diferu 'gwaed' ac yn sawru'n gigaidd!!

Beef Steak Fungus

© Parc Gwledig Margam