Hepgor gwe-lywio

Dyddiadur Ceidwad Cefn Gwlad Mis Gorffennaf

Dyddiadur Ceidwad Cefn Gwlad - Mis Gorffennaf

Canol dydd ganol yr haf, a braidd dim gwynt i gyffroi’r gwair. Dyma beth gallwn edrych ymlaen ato y mis yma. Ychydig sy’n symud yn y wlad fel mae gwres yr haul yn cynhesu popeth, a’r amser gorau i wylio’r bywyd gwyllt yw yn gynnar neu’n hwyr yn y dydd, pan yw’r gwlith yn dal ar y gwair, yr aer yn iach a llai o bobl o gwmpas. Pan ydych yn ymweld â’r Parc ewch am dro i’r siop. Eleni mae gennym ni gamera bychan sy wedi ei leoli nesaf at nyth y Wennol. Mae’r lluniau byw yn cael eu dangos ar sgrîn deledu yn y siop. Mae hi wedi llwyddo i ddodwy 3 wy ac mae’r gwryw a’r fenyw yn bwydo’r ifanc. Unwaith mae’r rhain wedi gadael y nyth rydym yn gobeithio y bydd hi’n cael nythaid arall er mwyn i ni wylio.

Lawr gyda’r ymlusgiaid !!

Dewiswch ddydd pan yw’r haul yn gryf yn gynnar yn y bore, efallai byddwch yn lwcus i’w gweld yn twymo ym mhelydrau cyntaf yr haul.

Efallai gwelwch chi wiber (Vipera berus), sef ein neidr fwyaf cyffredin. Mae’r neidr ddefaid (Anguis fragilis), (sy’n fadfall mewn gwironedd) yn aml i’w weld ar ymylon glaswelltir neu goetir. Mae’n well ganddynt yr ardaloedd mwy llaith; gallant fentro allan wedi glaw neu yn y nosweithiau.

Mae neidr y gwair (Natrix natrix) yn dodwy wyau. Gall y fenyw aros ble mae hi wedi dodwy ei hwyau, sy fel arfer yn neu o gwmpas llystyfiant sy’n pydru, pam na edrychwch yn eich tomen gwrtaith chi. Mae’r tywydd twym a gwres y llystyfiant sy’n pydru’n darparu’r neidr gyda hyd at 40 o wyau gwydn gydag amodau deoriad perffaith.

Mae pantiau llystyfiant yn creu cysgodion ardderchog iddynt ac felly edrychwch ar hyd y llwybrau. Pan ydych yn cerdded ar hyd y llwybrau ac rydych yn clywed siffrwd egnïol rydych mwy na thebyg wedi cerdded heibio madfall cyffredin nerfus (Lacterta vivipara). Os ydych yn canolbwyntio ar y pwynt yma (ceisiwch beidio â thaflu cysgod dros yr ardal) bydd yn y mwyafrif o achosion yn llithro nôl i’w le.

Acrobateg Awyr!!

Acrobateg Awyr!!

Mae llawer o adar ysglyfaethus ifanc eleni wedi gadael y nyth, mae ganddynt llawer i’w ddysgu o hyd. Mae tylluanod brech ifanc, yn edrych fel corachod pluog lletchwith, yn aml i’w gweld yng ngolau dydd yn eistedd mewn llefydd amlwg. Os gwelwch chi un dylech eu gadael, mae’r rhieni fel arfer yn cadw llygad ar yr ifanc gwyllt.

Mae bwncathod, cudyllod a gweilch gleision ifanc i’w gweld yn hawdd wrth iddynt eistedd ar byst ffensiau ac yn y coed yn wylofain am fwyd.

Mae cudyllod gleision yn aml yn ymweld a’r Parc, mae’r rhieni’n aml yn pasio bwyd i’r rhai ifanc yn yr awyr, ac mae arddangosfeydd awyrol yr adar yma yn anodd eu curo. Mwynhewch yr heulwen, eisteddwch nôl a gwyliwch!!!

© Parc Gwledig Margam